Blog Shannon

Shannon ydw i. Rydw i yn fy mhumdegau cynnar ac yn byw yng Ngogledd Cymru gyda fy ngŵr, sy’n Gymro. Rydyn ni’n gofalu am ei fam, felly rydyn ni’n byw gyda hi, ac mae gennym ddau gi Yorkie hyfryd.

Gadewch i fi fynd â chi nôl i'r adeg pan oeddwn i'n fy arddegau…

Roeddwn i’n cael mislif ofnadwy, afreolaidd, trwm a fyddai’n para dros saith diwrnod. Diolch i fy niweddar fam yn gweld synnwyr, aeth hi â fi at ein meddyg teulu yn swydd Hertford lle ces i fy magu, a sylweddolodd fod gen i arwyddion clasurol o Syndrom Ofarïau Polycystig (PCOS) sydd bellach yn gyfarwydd fel Syndrom Polyendocrin Metabolaidd Ofarïaidd (PMOS). Cymerwyd profion gwaed a ddangosodd gynnydd mewn lefelau testosteron, ac yna ces i fy rhoi ar y bilsen atal cenhedlu yn fy ugeiniau cynnar fel triniaeth. Roeddwn i'n ei gasáu, gan ei fod yn gwneud i fi deimlo'n fwy oriog.

Mewn gwirionedd, dim ond pan oeddwn i wedi priodi yn fy 20au cynnar ac yn trio cael babi y cymerwyd sganiau mewnol. Doedden nhw ddim yn gallu dod o hyd i un ofari ac ni ddangosodd y sgan unrhyw cystiau. Yn hytrach, ces wybod yn yr uned famolaeth yng Nghaergrawnt i adael, colli pwysau, a dod nôl mewn chwe mis. A do, fe wnaethon nhw ddweud, ‘ma gennych chi PCOS fwy na thebyg’, fel y byddai’n cael ei alw ar y pryd. Ond ni roddwyd unrhyw gyngor am golli’r pwysau. Roeddwn i wedi fy llorio nad oeddwn yn cael unrhyw help. Effeithiodd ar fy mhriodas, oherwydd doedd fy ngŵr a finnau ddim yn gallu penderfynu beth i’w wneud…Sawl blwyddyn yn ddiweddarach, fe wnaethon ni wahanu, heb unrhyw blant.

Fe wnaeth fy rhwystro rhag cael unrhyw gymorth pellach i edrych ar y posibilrwydd o PMOS. Ond yr hyn rwy'n ei gofio'n glir fel merch ifanc oedd fy mod wedi cael blew difrifol ar fy wyneb a byddai’r plant eraill yn yr ysgol yn fy mwlio, yn fy ngalw i’n ‘ddyn’ – drwy gydol fy amser yn yr ysgol…Wrth edrych nôl nawr, roedd hynny’n arwydd clir bod gen i PMOS.

Gadewch i ni symud ymlaen at 2026, lle rwy’n byw yng Ngogledd Cymru erbyn hyn gyda fy ail ŵr hyfryd. Does gen i ddim plant o hyd. Roedden ni wastad wedi dweud y bydden ni'n rhoi cynnig ar ddulliau naturiol yn unig - doedden ni ddim eisiau unrhyw help rhag ofn y byddai'n effeithio ar ein priodas. Drwy gydol yr amser hwn, rydw i wedi cael holl arwyddion PMOS: magu pwysau, blew ar yr wyneb, anffrwythlondeb, yn ogystal â mislif afreolaidd, ond rydyn ni'n hapus ac mae gennym ni’r cŵn sy'n gwneud iawn rywsut am beidio â chael plant.

Ym mis Mai 2026, cyhoeddodd The Lancet, cyfnodolyn meddygol wythnosol sy’n cyhoeddi ymchwil ar iechyd byd-eang, adroddiad am PCOS yn cael ei ail-enwi’n PMOS. Roeddwn i wrth fy modd! O’r diwedd, meddyliais, rydyn ni'n cyrraedd rhywle. Efallai y bydd hyn yn arwain at fenywod fel fi yn cael ein trin yn iawn, yn hytrach na rhywun yn dweud wrthych am gymryd y bilsen neu i golli pwysau. Mae rhai o'r menywod rwy'n siarad â nhw ar-lein yn amheus ynglŷn â hyn ond rwy'n teimlo'n bositif iawn. Efallai y bydd pobl yn gwrando arnom ni, y bydd ein symptomau a'n risgiau iechyd yn cael eu cymryd o ddifri, yn hytrach na rhywun yn dweud wrthych chi am ddod nôl dim ond pan fyddwn ni eisiau plant.

Mae mor bwysig bod pobl yn sylweddoli, os na chaiff ei drin, y gall PMOS arwain at glefyd y galon, diabetes, a chanser. Ches i ddim triniaeth, felly rydw i mewn mwy o berygl nawr…Mae'n debyg mai fy mai i yw hynny i ryw raddau – yr oedi rhag cael cymorth oherwydd fy mod i'n teimlo nad oedd y meddygon yn poeni. A dyna sut mae nifer o fenywod fel fi yn teimlo. I ni, mae'n ymddangos nad oes gan lawer o feddygon y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw am ein cyflwr, felly byddwn i'n dweud wrth fenywod fel fi, ‘Cofiwch fod hwn yn gyflwr hormonaidd – ac, oni bai eich bod chi'n trio am fabi, gofynnwch i gael gweld endocrinolegydd sy’n arbenigo mewn hormonau’.

Ac mae hynny'n fy arwain yn ôl at bwysigrwydd newid yr enw, o PCOS i PMOS, proses sydd wedi cymryd 14 mlynedd, a all arwain at fwy o ymchwil o hyn ymlaen. Gobeithio y bydd gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yn cael eu hyfforddi'n well ar PMOS ac y bydd hynny'n golygu y bydd pob menyw sydd â'r cyflwr yn cael ei thrin yn well.

Wrth newid yr enw, daw fy mrwydr am fwy o ymwybyddiaeth. Rwy’n gobeithio gweithio gyda Verity, elusen PCOS / PMOS a’r Senedd i dynnu sylw at y cyflwr. Rydw i bellach yn gwirfoddoli hefyd fel Pencampwr PMOS ar gyfer Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) sydd, fel fi, yn canolbwyntio ar yr hawl i iechyd. Mae'n bryd i fenywod gael eu cymryd o ddifri, hawl rydw i’n fodlon ymladd drosti. Rydw i eisiau i bawb wybod, os na chaiff y rhai sydd â PMOS eu trin, efallai y byddwn yn cael cyflyrau iechyd eraill fel clefyd y galon, diabetes, canser hyd yn oed. Ni allwn adael i hyn ddigwydd. Mae'n bryd newid.

Wrth ysgrifennu hwn, mae canllawiau NICE newydd ar y gweill ar gyfer PMOS (Rhagfyr 2026). Bydd y rhain hefyd yn helpu menywod fel fi i alw am driniaeth well – ac i dderbyn triniaeth well. Rydw i hefyd yn sgwrsio gyda fy Aelod o’r Senedd i drafod materion PMOS ac i weld sut allwn ni helpu'r rhai yn fy sefyllfa i. Mae'n ymddangos bod pethau'n symud yn eu blaenau. Rydw i’n gobeithio gweithio gyda'r Senedd a gwneud gwahaniaeth. Rydw i’n edrych ymlaen at roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb!

cyCymraeg