Blog gan Hyrwyddwr Gwirfoddol Endometriosis, Lowri.
Haia, Lowri sydd yma.
Yn gynharach eleni, fe wnes i deithio o Ganolbarth Cymru i San Steffan ar gyfer lansiad Ymchwiliad y Grŵp Seneddol Hollbleidiol (APPG) i Endometriosis a’r Gweithle. Daeth clinigwyr, ymgyrchwyr, cyflogwyr a phobl sydd â phrofiad personol at ei gilydd i drafod sut y gallai gweithleoedd roi gwell cefnogaeth i bobl sydd â’r cyflwr.
Ychydig fisoedd yn ddiweddarach, mae’r ymchwiliad wedi cyhoeddi ei ganfyddiadau. Mae’r ystadegau’n drawiadol, ond y tu ôl i bob rhif mae rhywun sy’n ceisio rheoli cyflwr cronig ochr yn ochr â gwaith, uchelgeisiau gyrfaol a bywyd bob dydd.
Edrych yn ôl ar y lansiad
Yn y lansiad, pwysleisiodd y siaradwyr pa mor bwysig yw clywed gan y gweithwyr a’r cyflogwyr eu hunain. Dywedodd pobl sut roeddent yn cael anhawster i gael mynediad at gymorth, rheoli symptomau yn y gwaith a diogelu eu gyrfaoedd a’u llesiant.
Deuthum oddi yno gan deimlo’n obeithiol y byddai rhannu’r profiadau hyn yn arwain at ddealltwriaeth gliriach o’r heriau y mae pobl yn eu hwynebu yn y gwaith.
Mae’n amhosibl anwybyddu’r canfyddiadau
Clywodd yr ymchwiliad gan fwy na 6,200 o weithwyr sydd wedi cael cadarnhad o endometriosis, neu yr amheuir bod y cyflwr arnynt, a 250 o gyflogwyr.
Mae rhai o’r canfyddiadau’n drawiadol iawn:
- Roedd 97% o’r ymatebwyr wedi gweithio tra oeddent yn profi poen difrifol.
- Roedd 94% yn teimlo nad oedd gan gyflogwyr ddealltwriaeth dda o endometriosis.
- Roedd 62% yn poeni ynglŷn â cholli eu gwaith yn gyfan gwbl.
- Roedd bron i hanner yr ymatebwyr heb gael addasiadau yn y gweithle.
- Roedd bron i hanner yr ymatebwyr yn sôn am anawsterau wrth geisio camu ymlaen â’u gyrfa.
- Roedd llawer wedi colli incwm, lleihau eu horiau, gwrthod cyfleoedd neu hyd yn oed adael swyddi oherwydd eu cyflwr.
Mae’r ffigurau hyn yn dychryn rhywun, ond nid ydynt yn ein synnu. Drwy grwpiau cymorth, eiriolaeth, ac o’m profiad fy hun, rwy’n clywed storïau tebyg yn rheolaidd.
Mwy na rhifau
Y tu ôl i’r ffigurau mae pobl sy’n dal i weithio tra’n rheoli poen difrifol, blinder llethol, apwyntiadau, gwella ar ôl llawdriniaeth ac ansicrwydd.
Mae llawer yn gwneud popeth sydd yn eu gallu i aros mewn gwaith, ond yn dal i deimlo pwysau i geisio dal ati’n dawel, neu’n poeni sut y bydd pobl eraill yn gweld eu cyflwr.
Mae’r adroddiad yn dangos bod ar bobl sydd â chyflyrau anwadal, hirdymor angen mwy o ymwybyddiaeth, canllawiau cliriach ac addasiadau ymarferol yn y gweithle.
Mae llawer o atebion yn rhai syml: gweithio hyblyg, rheolwyr cefnogol, amser o’r gwaith ar gyfer apwyntiadau, dychwelyd yn raddol ar ôl llawdriniaeth, a sgyrsiau agored – mae’r rhain i gyd yn gallu helpu pobl i aros mewn gwaith a symud ymlaen.
Pam y mae hyn yn bwysig
I mi, mae’r adroddiad yn dangos pam y mae mwy o ymwybyddiaeth ac eiriolaeth barhaus mor bwysig.
Mae gwell dealltwriaeth ymhlith cyflogwyr, rheolwyr, cydweithwyr, gweithwyr proffesiynol gofal iechyd a llunwyr polisïau yn arwain at well penderfyniadau, mynediad haws at gymorth a llai o bobl yn teimlo’n ynysig neu’n cael eu hanwybyddu.
Dechreuodd y lansiad sgwrs bwysig, ac mae’r adroddiad wedi pwysleisio ei phwysigrwydd. Yr her nawr yw troi canfyddiadau’r adroddiad yn weithredu ystyrlon.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Mae’r adroddiad yn galw ar y llywodraeth, cyflogwyr a sefydliadau i weithio gyda’i gilydd er mwyn gwella cymorth yn y gweithle i bobl sydd ag endometriosis.
Mae’n rhoi darlun pwerus ar gyfer y DU yn ei chyfanrwydd, ac yn dangos sut y gall newidiadau yn y gwaith chwalu llawer o’r rhwystrau y mae pobl yn eu hwynebu. Ond byddwn wedi hoffi gweld mwy am brofiadau pobl yng Nghymru, yn enwedig effaith byw mewn ardal wledig, mynediad at ofal arbenigol a sut y gallai polisi a chyd-destun deddfwriaethol gwahanol Cymru gefnogi newid.
Ar ôl teithio o ardal wledig Canolbarth Cymru i San Steffan i ymuno â’r sgwrs, rwy’n cael fy nghalonogi bod profiad personol wedi helpu i siapio’r ddadl ehangach. Mae llawer o waith i’w wneud eto, ond mae momentwm yn datblygu ac mae’n rhaid i leisiau Cymru fod yn rhan o’r hyn sy’n digwydd nesaf.
Y prif beth y byddaf yn ei gofio yw hyn: ni ddylai neb orfod dewis rhwng rheoli ei iechyd a datblygu’r yrfa y mae’n ei haeddu.