Lleisiau Gynecoleg
Un agwedd bwysig ar genhadaeth FTWW yw cefnogi'r gwaith o ddatblygu fforymau 'Lleisiau Gynecoleg' ymhob un o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru.
Mae 'Lleisiau Gynecoleg' yn sicrhau bod lleisiau defnyddwyr gwasanaethau yn ganolog yn y broses o wneud penderfyniadau mewn gwasanaethau gynecoleg yng Nghymru.
Mae'n dod â chleifion, staff gofal iechyd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i gynllunio, adolygu a gwella gofal gynecolegol.
Cip...
- Mae FTWW yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a chlinigwyr gofal iechyd i sicrhau bod profiadau menywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn dylanwadu ar ddatblygiad gofal gynecolegol.
- Ein nod yw datblygu fforymau 'Lleisiau Gynecoleg' sy'n dod â chleifion, staff gofal iechyd a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru.
- Yng Ngogledd Cymru, rydym ni wedi helpu i sefydlu a chynnal fforwm Lleisiau Gynecoleg sydd â chefnogaeth timau uwch reoli ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
- Gall fforymau Lleisiau Gynecoleg arwain at welliannau o ran diogelwch, ansawdd a phrofiad o ofal gynecolegol.
Sut dechreuodd Lleisiau Gynecoleg?
Mae Lleisiau Gynecoleg yn seiliedig yn fras ar y model a oedd eisoes yn cael ei ddefnyddio mewn Gwasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru a Lloegr, i helpu darparwyr gofal iechyd a chlinigwyr i glywed yn rheolaidd gan ddefnyddwyr gwasanaethau a gwneud yn siŵr bod y gofal a gynigir yn diwallu eu hanghenion.
Yng Nghymru a Lloegr, mae Partneriaethau Lleisiau Mamolaeth a Newyddenedigol yn bodoli, weithiau'n cael eu talfyrru i MNVP neu 'Leisiau Mamolaeth'. Mae'r rhan fwyaf o Ymddiriedolaethau'r GIG yn Lloegr ag MNVP, ac mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi eu datblygiad ymhob Bwrdd Iechyd yn Lloegr.
Mae MNVP yn gwrando ar brofiadau menywod a theuluoedd, ac mae'n dod â defnyddwyr gwasanaethau, staff a rhanddeiliaid eraill at ei gilydd i gynllunio, adolygu a gwella gofal mamolaeth a newyddenedigol. Mae MNVPau yn sicrhau bod lleisiau defnyddwyr yn ganolog wrth wneud penderfyniadau mewn gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol.
Mae FTWW wedi cefnogi Tîm Polisi Mamolaeth a Newyddenedigol Llywodraeth Cymru i ddatblygu Fframwaith Ymgysylltu Amenedigol a fydd yn rhoi arweiniad i fyrddau iechyd ar sut i sefydlu a darparu adnoddau ar gyfer MNVPau, i gydnabod eu gwerth yn sicrhau bod gwasanaethau'n rhoi'r unigolyn yn ganolog.
Mae FTWW a'r clinigwyr rydym ni'n gweithio â nhw yn cydnabod bod rhai o'r materion a drafodwyd mewn fforymau ac adborth Lleisiau Mamolaeth yn cael eu trosglwyddo i ofal gynecolegol, ee colli beichiogrwydd (camesgoriad) fwy nag unwaith, cyflyrau a thriniaethau gynecolegol, iechyd meddwl amenedigol, a heriau a gwasanaethau ar gyfer ffrwythlondeb. Credwn ei bod yn bwysig i leisiau menywod gael eu clywed yn y mannau hyn yn ogystal ag mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol.
Beth yw Fforwm Lleisiau Gynecoleg?
Mae Fforwm Lleisiau Gynecoleg yn canolbwyntio ar gynecoleg ac yn cyfateb i MNVP. Dylai fod yn lle adeiladol sy'n dod â chleifion a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol at ei gilydd, er mwyn i gleifion allu rhannu eu profiadau a'u safbwyntiau, a chydweithio i ddatblygu gwybodaeth a dulliau i ofalu sy'n diwallu anghenion cleifion.
Gall fforymau Lleisiau Gynecoleg arwain at welliannau o ran diogelwch, ansawdd a phrofiad o ofal gynecolegol.
Gall helpu i wneud yn siŵr fod y byrddau iechyd yn blaenoriaethu'r pethau cywir wrth ddarparu gwasanaethau gynecoleg, a bod yr wybodaeth, yr hyfforddiant a'r gofal a gynigir wedi cael mewnbwn gan gleifion fel eu bod yn diwallu eu hanghenion. Gall hyn hefyd helpu i wella effeithlonrwydd a lleihau gwastraff.
Ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, mae FTWW wedi helpu i sefydlu a chynnal Fforwm Lleisiau Gynecoleg, sy'n bodoli ers 2020. Mae'n cael ei gyd-gadeirio gan weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio yn yr arbenigedd gynecoleg a chynrychiolydd cleifion. Mae FTWW yn helpu i godi ymwybyddiaeth am y fforwm drwy rannu gwybodaeth â chleifion Gogledd Cymru yn ein cymuned ar-lein a'u cefnogi i fynychu a dweud eu dweud.
Sut mae Fforwm Lleisiau Gynecoleg yn cael ei gynnal?
Dylai Fforymau Lleisiau Gynecoleg gael cefnogaeth yr uwch dimau rheolau yn y byrddau iechyd fel bod yr hyn a gaiff ei drafod yn cael ei werthfawrogi'n iawn ac yn dylanwadu ar y broses o wneud penderfyniadau.
Yng Ngogledd Cymru, mae'r Fforwm Lleisiau Gynecoleg
- Yn cwrdd yn rheolaidd, unwaith bob chwarter, ar-lein (dros Teams)
- Yn cytuno ar agenda, cofnod o gamau gweithredu, a chofnodion
- Yn parhau i ymgysylltu y tu allan i'r cyfarfodydd bob chwarter, ee wrth ddatblygu gwybodaeth i gleifion neu achos busnes
- Yn cael ei gynrychioli yng nghyfarfodydd misol Bwrdd y Gyfarwyddiaeth Menywod
- Yn llunio adroddiadau bob dau fis i'r Bwrdd
- Yn cynnwys logo, cyfeiriad e-bost a gwybodaeth ar wefan y bwrdd iechyd
Y prif lwyddiannau
Mae Lleisiau Gynecoleg wedi'i enwi'n fodel o arferion da yn Royal College of Obstetricians’ 2022 Workforce Report (page 64) and in Public Health Wales’s July 2024 e-bulletin.
Yng Ngogledd Cymru, dyma rai o brif lwyddiannau'r Fforwm:
- Cyfrannu at ddatblygu achos busnes llwyddiannus dros glinig arbenigol ar gyfer y menopos
- Cyfrannu at ddatblygu llwybrau a gwybodaeth am ffrwythlondeb
- Cyfrannu at ddatblygu llwybr ar gyfer endometriosis i gleifion sydd â chlefyd a amheuir, clefyd a gadarnhawyd a chlefyd cymhleth
- Cyd-gynhyrchu taflen wybodaeth rhyddhau i gleifion sy'n cael llawdriniaeth gynecolegol achos dydd i'w helpu i ddeall yn well beth gafodd ei wneud, beth gafodd ei ganfod, a beth yw'r camau nesaf
- Cydweithio ar awdit o wasanaethau hysterosgopi cleifion allanol
Os ydych chi'n glaf gynecoleg neu'n ddefnyddiwr gwasanaethau yng Ngogledd Cymru a bod gennych ddiddordeb mewn clywed mwy neu ymuno â fforwm Lleisiau Gynecoleg Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, neu gallwch chi gysylltu â thîm BIPBC yma (saesneg yn unig)
Lleisiau Gynecoleg yn eich ardal chi
Mae FTWW eisoes yn cael sgyrsiau â byrddau iechyd eraill yng Nghymru i weld sut i sefydlu Fforwm Lleisiau Gynecoleg tebyg i'r un yng Ngogledd Cymru.
Os ydych chi'n glaf gynecolegol, yn weithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gweithio yn yr arbenigedd hwn, neu'n rheolwr gwasanaeth mewn bwrdd iechyd yng Nghymru ac â diddordeb mewn clywed mwy am Leisiau Gynecoleg yn eich ardal chi, cysylltwch â ni.
Newyddion am Leisiau Gynecoleg
Rhoi Sylw i Ganserau Gynaecolegol - a mwy!
FTWW Statement on Senedd Health & Social Care Committee Inquiry into Gynaecological Cancers & Plenary debate (15/05/24) Breaking the Silence on Gynaecological Cancers - and Beyond! Having contributed extensively to the recent inquiry into gynaecological...
Eisiau gwybod mwy?
Os ydych chi'n weithiwr proffesiynol gofal iechyd neu'n glaf ac eisiau helpu FTWW i gyflawni ei genhadaeth i gefnogi'r gwaith o ddatblygu Fforwm Lleisiau Gynecoleg yn eich Bwrdd Iechyd chi, cysylltwch.

