Fair Treatment for the Women of Wales | Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
DrawingOut
Y profiadau o fyw gyda phroblemau iechyd hirdymor amrywiol yng Nghymru, wedi’u disgrifio gan fenywod a’r rhai a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, drwy ddefnyddio eu geiriau a’u gwaith celf eu hunain.
Yn ystod mis Mai a Mehefin 2025, cynhalion ni ddau weithdy a oedd yn gyfle i gyfranogwyr greu delweddau gweledol a naratif i gyfleu sut yr oedd eu materion iechyd amrywiol yn effeithio arnynt ac i rannu eu profiadau gyda’i gilydd.
Yn ogystal â’r geiriau a’r lluniau sydd wedi’u creu, mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Caerdydd wedi helpu i nodi’r themâu cyffredin a oedd yn codi ac rydym ni’n falch iawn o allu rhannu’r canlyniadau. Mae adroddiad a llyfryn DrawingOut- Darganfod Materion Iechyd Hirdymor yng Nghymru ar gael yma.

DrawingOut - Darganfod Materion Iechyd Hirdymor yng Nghymru
Yn dod yn fuan...

Profiadau o Fyw gyda Phroblemau Iechyd Hirdymor yng Nghymru
Datblygwyd y llyfryn hwn fel rhan o’r prosiect Darlunio Problemau Iechyd Hirdymor yng Nghymru.
Os oes angen fersiynau wedi’u hargraffu o’r adroddiad neu’r llyfryn arnoch chi at ddibenion hygyrchedd, neu os oes gennych chi unrhyw ymholiadau eraill am y prosiect cysylltwch â ni.
I gael rhagor o wybodaeth am fethodoleg DrawingOut, ewch i www.drawingout.uk.
Hoffem ddiolch i Rosa UK a’r Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth yn ariannu'r prosiect hwn, ac am roi cyfle i’n haelodau ddefnyddio eu lleisiau unedig i greu newid.
This project was funded by Rosa’s Voices from the Frontline fund which offers grants to women’s and girls’ organisations to support campaigning and influencing work that enables women and girls to use their voice to achieve change.

Mae'r rhaglen ariannu Pawb a'i Le y Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaetholyn cefnogi prosiectau sy'n hygyrch, dan arweiniad y gymuned, ac yn canolbwyntio ar faterion sydd bwysicaf i bobl yng Nghymru.
