Cydweithio

Mae meithrin cysylltiadau a gweithio ar y cyd â sefydliadau a grwpiau eraill yng Nghymru a'r tu hwnt yn bwysig iawn i ni er mwyn sicrhau bod cydraddoldebau iechyd menywod – ac yn ehangach – yn cael sylw.

Ar y dudalen hon, gallwch chi gael gwybodaeth am ein gwaith ar y cyd ac am y sefydliadau yr ydym yn gweithio gyda nhw i gael gwared ar anghydraddodebau iechyd yng Nghymru.

Ymhob rhan o'n gweithgareddau a'n gwaith ar y cyd, ein nod yw sicrhau bod lleisiau dilys ein haelodau yn cael eu clywed, felly rydym ni'n gwneud llawer o waith ymgysylltu i fod yn eiriolwyr effeithiol dros ein cymuned.

Rydym ni hefyd yn cefnogi ac yn galluogi ein haelodau a'n gwirfoddolwyr i gael lle wrth y bwrdd, er mwyn iddynt allu siarad drostynt eu hunain os yw hyn yn rhywbeth y maent eisiau ei wneud! 

Cyrff cyhoeddus a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol

Rydym ni'n gweithio gyda chyrff cyhoeddus a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel Gweithrediaeth GIG Cymru, ei Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod a'i Rhwydwaith Gweithredu Gynecoleg (ymysg rhai eraill) i'w helpu i deall profiadau a blaenoriaethau ein haelodau yn well.

Rydym ni hefyd yn hoffi gweithio ar y cyd â byrddau iechyd, fel eu bod yn gallu dylunio gwasanaethau sy'n diwallu anghenion cleifion. Rydym ni'n cefnogi ein haelodau a'n gwirfoddolwyr i gymryd rhan mewn rhai o'r gweithgareddau hyn, fel bod modd i wasanaethau gael eu cyd-gynhyrchu a bod yn fwy tebygol o weithio'n effeithlon.

Un enghraifft o hyn yw gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y Gogledd, lle rydym ni wedi helpu i sefydlu ei fforwm 'Lleisiau Gynecoleg'. Mae'r fforwm yn galluogi cleifion gynecoleg yn y rhanbarth i gyfrannu mewnbwn i'r gofal.

Adrannau a grwpiau Llywodraeth Cymru

Rydym ni'n gweithio gydag adrannau a grwpiau Llywodraeth Cymru, fel y Tasglu Hawliau Anabledd, y Fforwm Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau, a'r Bwrdd Crwn Urddas y Mislif, fel bod y polisïau sy'n cael eu datblygu ganddynt yn rhai cynhwysol ac yn ystyried iechyd a llesiant menywod yn eu cyfanrwydd.

Y rheswm am hyn yw ein bod ni'n gwybod nad cyfrifoldeb y GIG bob amser yw iechyd a llesiant da. Fe allai rhesymau sylfaenol fod yn gyfrifol, e.e. bod yn dlawd, heb wybod eich hawliau, byw mewn ardal wledig, neu fod heb fynediad at drafnidiaeth dda.

Pwyllgorau'r Senedd

Rydym ni'n cefnogi Pwyllgorau'r Senedd, fel y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, i gasglu tystiolaeth am y gwahanol brofiadau iechyd a llesiant sydd gan ein haelodau, er mwyn iddynt gael dealltwriaeth well o'r hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad a gallu craffu'n well ar benderfyniadau Llywodraeth Cymru.

Rydym ni hefyd yn darparu ysgrifenyddiaeth ar y cyd i'r Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod, ac yn mynychu grwpiau eraill fel hyn yng Nghymru a'r DU fel bod gwleidyddion o bob plaid yn gallu clywed am brofiadau cleifion a dysgu beth sydd ei angen yng Nghymru i fynd i'r afael ag annhegwch iechyd.

Er enghraifft, mae ein Hyrwyddwyr Gwirfoddol yn mynychu Grwpiau Seneddol Hollblediol y DU ar Endometriosis a'r Menopos.

Prifysgolion

Rydym ni'n gweithio'n agos â gwahanol brifysgolion yng Nghymru, gan gynnwys Caerdydd, Abertawe a Bangor i'w helpu i sefydlu prosiectau ymchwil sy'n berthnasol i'n haelodau, a'u cynnwys nhw yn eu gweithgareddau. Mae hyn yn aml yn cael ei ddisgrifio fel PPIE, sef Cynnwys ac Ymgysylltu â Chleifion neu'r Cyhoedd.

Yn FTWW, rydym ni'n awyddus i wneud yn siŵr fod hyn mor gynhwysol a hygyrch â phosibl, gan ein bod ni'n deall ei bod hi'n gallu bod yn heriol i fenywod sy'n anabl na'n byw â materion iechyd hirdymor gymryd rhan a pharhau i gymryd rhan. Ein bod yw sicrhau bod eu blaenoriaethau a'u hanghenion nhw yn cael eu hystyried ac yn cael lle yn y gofodau hyn, yn enwedig gan fod 'ymchwil i iechyd menywod' wedi bod yn brin yn hanesyddol yn y DU ac yn fyd-eang. Gallwch chi gael rhagor o wybodaeth am ein gwaith gyda grwpiau ymchwil yma.

Rydym ni'n gwrando, ac yn gweithio ar y cyd ag elusennau a grwpiau llawr gwlad eraill. Y rheswm am hyn yw ein bod yn gwybod nad oes yr un mudiad yn gallu cynrychioli pawb, a bydd elusennau eraill yn arbenigwyr ar anghenion eu cymunedau nhw.

Drwy ddod at ein gilydd, gallwn ni sicrhau bod cynifer o leisiau â phosibl yn cael eu clywed. Yn aml, bydd gorgyffwrdd rhwng y materion yr ydym yn clywed amdanynt gan elusennau, felly mae'n bwysig dod â'r safbwyntiau hyn at ei gilydd. O ran iechyd menywod, un o'r ffyrdd o wneud hyn yw Cadeirio Cynghrair Iechyd Menywod Cymru.

Mae FTWW wrthi'n gweithio neu wedi gweithio'n ddiweddar gyda:

GIG Cymru
Senedd Cymru
Grwpiau Seneddol y DU
Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned (Llais bellach)
Prifysgol Caerdydd
Prifysgol Bangor
Anabledd Cymru
Endometriosis UK
Fertility Network UK Cymru
Tîm Llesiant Pelfig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Iechyd Cyhoeddus Cymru
Prifysgol Abertawe
Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Tasglu a Gweithgorau Hawliau Anabledd Llywodraeth Cymru
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Menywod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
NSAG Cenedlaethol Pwyllgor Gweithredol Cymru. Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Iechyd Menywod
Verity
Cynghrair James Lind

Coproduction Network for Wales logo

Mae FTWW yn aelod o Rwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru

Newyddion a blogiau am gydweithio

ME Voices Wales – have your say!

ME Voices Wales – have your say!

ME Voices Wales is an exciting new project to bring people together so we can listen to each other and work out ways we can communicate about things that are important to us.

Ydych chi eisiau cydweithio â ni a'n cymuned?

Rhagor o wybodaeth am gyfleoedd i gydweithio, grwpiau a gweithgareddau y mae FTWW yn rhan ohonynt, neu i ddysgu sut y gallem ni weithio gyda'ch sefydliad chi...

cyCymraeg