Fair Treatment for the Women of Wales | Triniaeth Deg i Fenywod Cymru
Ein cymuned
Rydym ni wedi datblygu cymuned amrywiol a chroesawgar o fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Mae'r dudalen hon yn cynnwys gwybodaeth am ein cymuned a sut i ymuno.
Dechreuodd FTWW fel cymuned ar-lein yn cael ei harwain gan gymuned o wirfoddolwyr a oedd yn wynebu rhagfarn, camsyniadau a rhwystrau rhag gofal iechyd yng Nghymru.
Erbyn hyn mae ein cymuned wedi tyfu ac yn cynnwys 10,000 a mwy o bobl ar draws llwyfannau ar-lein, gyda thrafodaethau am amrywiaeth eang o gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni. Rydym ni'n gynhwysol o fenywod, pobl anneuaidd, pobl draws a phobl ryngryw.
Pam dylech chi ymuno?
Cael cymorth gan gymheiriaid
Mae ein cymuned yn darparu lle diogel i'n haelodau rannu profiadau a chael gwybod sut mae pobl eraill wedi goresgyn rhwystrau rhag cael y gofal iechyd angenrheidiol. Os ydych chi'n credu y byddech chi'n cael budd o gefnogaeth i ddeall gwasanaethau iechyd, beth bynnag yw'r cyflyrau (meddyliol neu gorfforol) yr ydych chi'n byw â nhw, rydym ni yma i helpu.
Cael eich grymuso
Cewch wella eich iechyd a'ch llesiant gyda'n gweithdy sgiliau, hyfforddiant a phecynnau cymorth sydd ar gael yn rhad ac am ddim,
Gallwch chi hefyd gael awgrymiadau a chynghorion ar sut i eiriol drosoch chi eich hun yma (saesneg yn unig).
Bod yn "arbenigwr drwy brofiad"
Ydych chi wedi llwyddo i gael y gofal iechyd sydd ei angen arnoch, ac eisiau helpu pobl eraill i wneud hynny hefyd? Mae ein cymuned eisiau i chi rannu eich profiad!
Cael rhywun i wrando arnoch
Rydym ni'n rhannu cyfleoedd yn rheolaidd i gymryd rhan yn ein gweithgareddau a defnyddio eich profiadau i godi ymwybyddiaeth, a dylanwadu ar ddatblygiad polisïau a mentrau gofal iechyd. Gallai hyn gynnwys cymryd rhan mewn arolygon, grwpiau ffocws, ymchwil a cheisiadau gan y cyfryngau.
Rhwydweithio â phobl sy'n rhannu ein cenhadaeth
Mae ein cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr yn wastad yn chwilio am gyfleoedd i weithio gyda phobl sydd â diddordeb mewn gwella gofal iechyd i fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yng Nghymru.
Sut i ymuno
Os ydych chi eisiau rhannu eich stori, neu ymuno â'r sgwrs, neu glywed am y cyfleoedd diweddaraf i gymryd rhan, gan gynnwys digwyddiadau, grwpiau ffocws a gwaith ymchwil, mae mwy nag un ffordd o gymryd rhan.
Ymunwch â'n grŵp facebook
Gyda bron i 2,000 o aelodau, mae ein grŵp Facebook yn rhywle rhagweithiol i fenywod a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni sydd eisiau gwella gwasanaethau iechyd yng Nghymru.
Gall unrhyw un ymuno â'r grŵp, yn enwedig os ydych chi'n teimlo bod eich problemau iechyd yn aml yn cael eu diystyru fel rhai sy'n cael eu 'dychmygu'. Rydym ni yma i gefnogi, ysbrydoli, grymuso a hybu newid!
Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol
Rydym ni'n roi negeseuon yn rheolaidd ar y cyfryngau cymdeithasol i rannu gwybodaeth a chyfleoedd gyda'n cefnogwyr, gwirfoddolwyr a phartneriaid. Dilynwch ni i gael gwybodaeth yn syth i'ch ffrwd chi, a chofiwch rannu ein cynnwys i'n helpu ni i gyrraedd mwy o bobl yng Nghymru a'r tu hwnt!
Ewch i'n cyfryngau cymdeithasol drwy glicio ar yr eiconau isod:
Cofrestrwch i gael newyddion a'r wybodaeth ddiweddaraf
Ydych chi eisiau clywed drwy e-bost gan FTWW am y datblygiadau diweddaraf a chyfleoedd? Cofrestrwch nawr i ymuno â'n rhestr bostio:
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Storïau gan ein cymuned
Dim canlyniadau
Nid oedd modd canfod y tudalen y gofynnwyd amdani. Ceisiwch fireinio eich chwiliad, neu defnyddiwch y panel llywio uchod i ganfod y neges.
Newyddion cymunedol
Virtual Event – Endometriosis and The Women & Girls’ Health Plan
March is Endometriosis Action Month, and we are delighted to invite you to attend a virtual event on Thursday 23rd March from 6.00pm - 7.30pm. The event will be chaired by Jenny Rathbone MS. The focus of the event is on the NHS Wales and Welsh Government Women and...
Ask your MS to meet us at The Senedd
As part of Endometriosis Action Month, FTWW be teaming up with Endometriosis UK later in March, when we’ll be inviting Members of the Senedd to come and find out more about endometriosis and what they can do to support their communities. Tag your MS in our tweet and...
Endo March is BACK!
Worldwide EndoMarch is coming to Wales again. Cardiff will be the location for the South Wales event, with the march taking place on Sunday 26th March. We will be marching through the streets of Cardiff with the hope of promoting awareness for endometriosis, and the...
Ydych chi eisiau clywed safbwyntiau cleifion o'n cymuned?
Mae profiad bywyd yn ganolog i'n holl waith. Rydym ni'n darparu hyfforddiant, sgyrsiau, cyflwyniadau a grwpiau ffocws i addysgu busnesau a sefydliadau ar faterion iechyd menywod, ac rydym ni'n ei gwneud hi'n haws i'r cyhoedd a chleifion gymryd rhan a chyd-gynhyrchu.
Ymunwch â'n cenhadaeth i gael gwared ar anghydraddoldebau iechyd yng Nghymru. Beth am wirfoddoli, cyfrannu, eirioli?


