Sut i "ddweud eich dweud" ac eiriol drostoch eich hun
Os ydych chi'n byw â chyflwr iechyd, mae'r dudalen hon yn darparu awgrymiadau a chynghorion ar sut i ddweud eich dweud drostoch chi eich hun i aelodau o'ch teulu, ffrindiau, cydweithwyr neu weithwyr meddygol proffeisynol, a sut i chwilio am gymorth a chefnogaeth.
Un o brif nodau FTWW yw rhoi'r hyder a'r sgiliau i fenywod allu dweud eu dweud drostynt eu hunain pan fyddant eisiau siarad am eu hiechyd a'u hanghenion gofal iechyd.
Mae FTWW wrthi'n cyd-gynhyrchu Pecyn Cymorth Hunaneiriolaeth gyda'n cymuned, felly cadw lygad ar yr adran hon i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny! Yn y cyfamser, mae awgrymiadau, cynghorion a dolenni at wybodaeth ac adnoddau ar gael isod i'ch helpu i eiriol drosoch ei hun.
Awgrymiadau gan aelodau o'n cymuned
1. Cofiwch nad oes neb yn adnabod eich corff chi gystal â chi, felly byddwch yn hyderus yn eich gwybodaeth a'ch arbenigedd
2. Byddwch yn garedig tuag atoch eich hun – mae'n rhy hawdd bod yn hunanfeirniadol mewn ffordd na fyddem ni tuag at rywun arall
3. Cadwch ddyddiadur – gan gynnwys wrth baratoi ar gyfer apwyntiadau a pheidiwch ag ofni gofyn i weithwyr gofal iechyd proffesiynol i ailadrodd pethau er mwyn i chi allu gwneud nodiadau i ailedrych arnynt wedyn.
Gallwch chi gael awgrymiadau ar sut i fanteisio i'r eithaf ar eich apwyntiad meddygol yn y fan yma (saesneg yn unig).
4. Edrychwch ar Ganllawiau NICE Guidance ar Wneud Penderfyniadau ar y Cyd – dyma argymhellion y mae disgwyl i weithwyr gofal iechyd proffesiynol eu dilyn wrth eich helpu chi i wneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am eich gofal. Maen nhw'n dangos bod eich llais a'ch arbenigedd yn bwysig a bod eich dewisiadau'n cyfri! Drwy ddarllen a throi at y rhain gallwch fagu hunan-hyder mewn sgyrsiau clinigol
5. Dywedwch wrthych eich hun fod eich llais yn bwysig a bod angen iddo gael ei glywed. Ceisiwch ymuno â grwpiau cymorth rhagweithiol lle mae pobl yn mynd drwy brofiadau tebyg i chi i'ch helpu i deimlo'n llai unig ac i gael eich grymuso fwy
6. Ceisiwch gadw eich hun mor iach â phosibl, yn gorfforol a meddyliol, ni waeth pa gyflyrau iechyd yr ydych chi'n byw â nhw
7. Atgoffwch eich hun fod mwy o werth i chi na pha mor gynhyrchiol ydych chi mewn cymdeithas gyfalafol fodern.
“Dydw i ddim yn hoffi cyfaddef fy mod i'n cael trafferth. Dydw i ddim eisiau bod yn rhywun sy'n cael y label o rywun sâl. Er fy mod yn gwybod nad felly bydd hi, rwy'n teimlo y byddaf yn cael fy ngweld fel rhywun gwan, neu fel rhywun sydd ddim yn ddigon cryf i ddelio â phethau. Felly, pan fydda i'n cyfaddef fod problem, gallaf fynd yn eithaf emosiynol ac yn agos at ddagrau, sydd ddim yn gwneud i rywun eich cymryd o ddifri, yn enwedig gweithwyr iechyd proffesiynol sydd ddim yn fy adnabod i.
Eiriolaeth a Chefnogaeth - Adroddiad gan FTWW
Mae'r adroddiad hwn yn rhoi trosolwg manwl o'r gwahanol heriau y mae aelodau o'n cymuned wedi'u hwynebu wrth chwilio am gymorth a chefnogaeth, a sut maent yn meddwl y gallai'r profiadau hyn fod wedi bod yn well
Byddwch yn rhan o'n cymuned ar-lein
Rydym ni wedi datblygu cymuned amrywiol a chroesawgar o fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.
Mae ein cymuned ar-lein yn darparu cymorth a dilysiad gan gymheiriaid, ond mae hefyd yn rhywle lle gallwn ni rannu cyfleoedd am hyfforddiant a chyfranogiad i aelodau gael dweud eu dweud.
Adnoddau defnyddiol ar gyfer rheoli eich llesiant
Rydym ni'n gwybod drwy ein haelodau fod byw â chyflyrau iechyd cronig neu ailadroddol, sy'n aml yn anweledig, yn gallu achosi llawer o straen i bobl ac mae hynny wedyn yn gallu gwneud symptomau'n waeth. Isod, rydym ni wedi casglu rhai o'r adnoddau pwysig i fenywod a merched sy'n byw â materion iechyd.
Endometriosis Cymru - straen ac ymdopi
Nid yw'r wefan ar gyfer cleifion endometriosis yn unig. Mae'n cynnwys holiadur sy'n gallu eich helpu i ddeall eich arddull ymdopi a strategaethau i'ch helpu chi i gael dulliau gwell o reoli effaith seicolegol byw â chyflwr iechyd hirdymor.
Gwefan 'Hapus' - Iechyd Cyhoeddus Cymru
Offer ac adnoddau i wella eich llesiant meddyliol a'ch gwytnwch
Deall Anabledd
Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua 26% o'r boblogaeth yn anabl, ond nid yw llawer o'r rheini'n gwybod eu bod yn gallu eu galw eu hunain yn anabl.
Rydym ni'n dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n golygu mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddol sy'n gwneud pobl yn anabl ac yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas, nid y cyflyrau meddwl neu'r namau o reidrwydd.