13 techniques to help handle health conversations
Y dudalen hon yw adran 5 o 5 o FTWW’s Mae fy Llais yn Cyfrif Becyn Cymorth Hunan-eiriolaeth
Ymarferwch y technegau isod i wella eich sgiliau hunan-eiriolaeth:
1. Byddwch yn bendant eich barn yn hytrach nag ymosodol
Mae menywod yn arbennig yn aml yn poeni y bydd mynegi eu dymuniadau yn achosi iddynt gael eu labelu fel rhywun awdurdodol neu ymosodol.
Mae'n bwysig deall bod hyn yn aml yn seiliedig ar stereoteipiau rhywedd a rhagfarnau nad ydynt yn wir nac yn ddefnyddiol. Mae gennym yr un hawl i ddiwallu ein hanghenion gofal iechyd ag unrhyw un. Weithiau mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni gwestiynu agweddau tuag at ein profiadau a'n lleisiau sy’n achosi iddynt gael eu diystyru neu eu hanwybyddu. Fodd bynnag, gallwn wneud hyn mewn ffordd sy'n glir a hyderus heb wrthdaro ac achosi i ni ein hunain ac eraill fod yn flin neu ofidus.
Gall barn bendant eich helpu i gyfleu eich pwynt mewn sgyrsiau ac apwyntiadau gofal iechyd. Gall eich galluogi i ddod allan ohonynt yn teimlo'n fwy hyderus eich bod wedi dweud yr hyn yr oedd angen i chi ei ddweud, a sicrhau'r canlyniadau roeddech chi’n eu dymuno.
Mae yna strategaethau cyfathrebu allweddol a all eich helpu i fod yn fwy hyderus a chadarn wrth drafod eich anghenion iechyd. Rydym wedi'u disgrifio isod. Efallai y bydd rhai o'r technegau hyn yn newydd ac yn anghyfarwydd i chi, felly efallai yr hoffech roi cynnig arnynt ac ymarfer gyda ffrind, aelod o'r teulu, neu rywun arall rydych chi'n ymddiried ynddo neu ynddi!
2. Gwrandewch arnoch chi'ch hun yn gyntaf
Gall eich llais mewnol – pryderon, diffyg ymddiriedaeth, rhwystredigaethau blaenorol – amharu ar yr hyn rydych chi am ei ddweud a'r nodau sydd gennych ar gyfer yr apwyntiad. Dylech dderbyn ei bod yn iawn teimlo fel hyn. Cymerwch anadl a chyn ymgysylltu, oedwch.
Awgrym: Er mwyn helpu i feistroli eich anadlu, gallwch wylio ymarfer 'Anadlu' (Box-Breathing) FTWW:
Awgrym:
Er mwyn helpu i feistroli eich anadlu, gallwch wylio ymarfer 'Anadlu' (Box-Breathing) FTWW:
3. Bod yn y foment
Canolbwyntiwch eich sylw ar y person o'ch blaen – mae'n anodd ond gallwch ymarfer technegau ymdawelu i'ch helpu, gan gynnwys 'anadlu (box-breathing)' neu 'tapio' i ganolbwyntio ar y sgwrs yn hytrach na'ch llais mewnol.
Awgrym:
I'ch helpu i ymarfer cadw ffocws yn eich apwyntiadau gofal iechyd, gwyliwch arddangosiad 'Tapio' FTWW:
4. Cyswllt llygaid
Gall cyswllt llygaid helpu i ddangos didwylledd a'ch bod chi'n gwrando. Fodd bynnag, gwyddom nad yw 'cynnal cyswllt llygaid' bob amser yn hawdd, yn enwedig i'r rhai sy'n niwroamrywiol, neu'n syml yn fewnblyg neu'n swil, ond gallwch ymarfer defnyddio drych neu gyda phobl rydych chi'n agos atynt ac yn teimlo'n fwy hyderus yn eu cwmni.

5. Byddwch yn onest am yr heriau rydych chi'n eu hwynebu
Dywedwch ymlaen llaw eich bod chi'n ystyried bod rhai pethau ynglŷn â chyfathrebu neu gymryd rhan mewn apwyntiadau yn anodd, gan ddangos eich bod yn hunanymwybodol ac yn onest am eich heriau eich hun - gall hyn ynddo'i hun helpu i gychwyn deialog.
6. Ceisiwch ymarfer a defnyddio ymadroddion hyderus
Defnyddiwch ymadroddion fel:
'Rwy'n poeni am...'
'Mae hyn yn effeithio ar fy mywyd bob dydd'
'Hoffwn edrych ar yr opsiynau'
'Allech chi esbonio'r rhesymau'
'Beth yw'r camau nesaf'
'Pam?'
Mae ymadroddion fel hyn yn arwydd o'ch dymuniad i gydweithio â'ch meddyg mewn penderfyniadau am eich iechyd a'ch gofal.
Mae'r un olaf yn arbennig o bwysig os cewch eich cynghori nad ydych chi'n gymwys ar gyfer camau penodol, fel atgyfeiriad. Gallwch hefyd ofyn i'ch cais gael ei ddogfennu yn eich nodiadau meddygol.
7. Cyfnodau o Dawelwch
Peidiwch â theimlo'r angen i lenwi unrhyw eiliadau o dawelwch. Rhowch amser i'r person arall ac i chi'ch hun fyfyrio ar yr hyn sydd wedi'i ddweud.
8. Techneg Gymylu
Mae hon yn dechneg sy'n cynnwys gadael i'r person arall wybod eich bod wedi clywed yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud a derbyn hyn fel eu barn heb deimlo bod yn rhaid i chi gyfiawnhau eich safbwynt eich hun, sy’n wahanol.
Er enghraifft, gallai eich meddyg ddweud, 'Mae llawer o gleifion yn sôn am newid mewn hwyliau wrth ddefnyddio'r driniaeth hon'..
Gyda’r dechneg 'gymylu', efallai y byddwch chi'n ymateb gyda, 'Rwy'n gwerthfawrogi bod hynny'n wir. Fodd bynnag, rwy'n profi iselder sy'n anodd i mi a fy nheulu ymdopi ag ef, felly hoffwn drafod rhai opsiynau eraill'..
Yn hytrach na chael eich cynhyrfu neu deimlo'n flin, cymerwch ychydig eiliadau i sadio eich hun trwy gydnabod sylwadau'r person arall cyn symud ymlaen i'ch persbectif eich hun.
Mewn lleoliadau gofal iechyd, gall y math yma o sgwrs helpu i symud chi a'ch meddyg tuag at ddatrysiad, a elwir weithiau'n 'benderfyniad a rennir'.
Gall y dechneg gymylu helpu i osgoi gwrthdaro; mae'n dangos eich bod chi'n parchu arbenigedd y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol, ond mae hefyd yn canolbwyntio ar eich profiad a'ch dewisiadau.
Awgrym:
I gael rhagor o wybodaeth am 'wneud penderfyniadau a rennir' a sut ddylai hyn edrych mewn lleoliadau gofal iechyd, efallai yr hoffech edrych ar ganllawiau NICE am 'wneud penderfyniadau a rennir'.
9. Y dechneg Ailadrodd (Broken Record)
Mae hon yn dechneg a all fod yn ddefnyddiol mewn sefyllfaoedd lle mae angen i chi fod yn bendant eich barn heb golli eich tymer, neu golli golwg ar eich nodau oherwydd eich bod chi'n rhy flin i feddwl yn glir.
Nodwch yn glir eich pwynt allweddol, blaenoriaeth, neu nod. Ailadroddwch ef yn dawel heb or-esbonio. Gwnewch yn siŵr eich bod yn parhau i anadlu rhag i chi gynhyrfu, a chanolbwyntiwch ar eich pwynt fel nad oes unrhyw beth yn tynnu eich sylw.
Fel gyda'r dechneg gymylu, gallwch gydnabod persbectif y person arall i ddangos eich bod chi'n gwerthfawrogi eu mewnbwn, ond heb dynnu sylw oddi wrth eich safbwynt eich hun.
Er enghraifft, efallai y byddech chi'n dweud, 'Rwy'n deall beth rydych chi'n ei olygu am newid mewn hwyliau sy'n nodweddiadol ar gyfer y driniaeth hon a'i fod yn cael ei ystyried yn ddewis da ar gyfer fy nghyflwr, ond hoffwn roi cynnig ar ddull gwahanol'..
Trwy ddefnyddio'r dechneg ailadrodd, gallwch fod yn bendant eich barn a sicrhau bod eich anghenion yn cael eu clywed a'u deall.
10. Y dechneg Ryngosod (Sandwich)
Gelwir y dechneg hon hefyd yn 'ryngosod adborth', oherwydd ei fod yn fframio beirniadaeth adeiladol, eich cais, neu nod, rhwng dwy haen o sylwadau cadarnhaol.
Er enghraifft, efallai y byddech chi'n dweud, 'Rwy'n croesawu eich safbwyntiau ar hyn. Fodd bynnag, rwy'n pryderu am yr effaith y mae'r feddyginiaeth bresennol hon yn ei chael ar fy hwyliau ac mae angen trafod ffordd arall ymlaen. Diolch am fy helpu i fynd trwy'r opsiynau'.
Mae'r dull wedi'i gynllunio i wneud eich adborth neu wahaniaeth barn yn haws i'r person arall – yn yr achos hwn, y gweithiwr gofal iechyd proffesiynol – ei dderbyn. Gall fod yn ddefnyddiol i wneud y rhyngweithio yn fwy cadarnhaol ac adeiladol.
11. Byddwch yn chi eich hun
P'un ai bod angen crio arnoch neu ddefnyddio eich geiriau eich hun ar gyfer pethau, fel bratiaith, peidiwch â gadael iddo eich poeni.
Weithiau, gall ceisio dal yn ôl rhag crio neu geisio defnyddio iaith nad yw'n gyfarwydd i chi gymryd cymaint o ymdrech fel na allwch ganolbwyntio ar yr hyn sydd ei angen arnoch allan o'r apwyntiad.
Cofiwch, mae'n iawn crio. Weithiau, gall disgwyl apwyntiad, neu siarad am yr effaith y mae symptomau yn ei chael ar eich bywyd wneud i chi deimlo'n ddagreuol. Yn aml, gall fod yn well dangos y teimladau hynny a chrio na cheisio’n galed i gadw'ch emosiynau dan glo fel na allwch ganolbwyntio ar yr hyn sy'n cael ei ddweud.
Mae meddygon yn dweud na fyddant yn synnu os byddwch yn crio ac na ddylech boeni am wneud hynny. Mae llawer yn gwerthfawrogi y gall crio ryddhau tensiwn a chael effaith therapiwtig.
Efallai y bydd angen i chi hefyd ddefnyddio eich iaith neu derminoleg eich hun i ddisgrifio symptomau neu rannau o'r corff - ac mae hynny'n iawn hefyd. Dylai eich meddyg ofyn i chi esbonio ychydig mwy os ydyn nhw'n ddryslyd, gan gynnwys os ydych chi wedi cam-ynganu pethau. Does dim ots – yr hyn sy'n bwysig yw bod y ddau/ddwy ohonoch yn dod i ddealltwriaeth a rennir yn y pen draw ac yn gallu symud pethau ymlaen gyda'ch gilydd.
12. Gofynnwch gwestiynau
Mae'n bwysig i chi ddeall beth sy'n digwydd gyda'ch corff, gan gynnwys a fu unrhyw ymchwiliadau neu brofion y mae angen i chi wybod y canlyniadau ohonynt.
Peidiwch â bod ofn gofyn am ganlyniadau a'r camau nesaf i'w hegluro i chi a gofyn iddynt ysgrifennu’r atebion, neu roi taflen i chi fel y gallwch ei hail-ddarllen yn eich amser eich hun.

13. Myfyriwch yn ôl
Gwiriwch eich dealltwriaeth trwy ailadrodd i'r meddyg hanfod yr hyn a ddywedwyd fel y gallant egluro unrhyw beth y gallech fod wedi'i gam-glywed neu ei gamddeall.
Os oes rhywbeth nad ydych chi'n ei ddeall, peidiwch â bod ofn torri ar draws a gofyn yn gwrtais. Chi yw'r un sy’n penderfynu; mae'r apwyntiad amdanoch chi! Ac os nad ydych wedi llwyddo i gynnwys popeth, gofynnwch am wneud apwyntiad arall.
Mae'r dudalen hon yn rhan 5 o 5 o Becyn Cymorth Hunan-Eiriolaeth Mae Fy Llais yn Cyfrif FTWW.
Nesaf:
Our Mae fy Llais yn Cyfrif animations and scenarios will show you how to apply the tips and techniques you’ve learned.
Pecyn Cymorth Hunan-eiriolaeth Mae fy Llais yn Cyfrif FTWW
Mae'r Pecyn Cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth, awgrymiadau, technegau ac enghreifftiau i ddatblygu eich sgiliau hunan-eiriolaeth
Gweld y Pecyn Cymorth Hunan-Eiriolaeth