Mae fy Llais yn Cyfrif
Pecyn Cymorth Hunan-eiriolaeth
Un o brif nodau FTWW yw sicrhau bod gan y rhai yr ydym yn eu cefnogi yr hyder a'r sgiliau sydd eu hangen arnynt i siarad am eu hiechyd a'u hanghenion cysylltiedig.
Mae pecyn cymorth hunan-eiriolaeth Mae fy Llais yn Cyfrif FTWW wedi'i gyd-baratoi gyda'n haelodau. Ei nod yw rhoi awgrymiadau, cyngor a sgiliau i chi a allai fod o gymorth i gael mynediad at y gofal a'r gefnogaeth sy'n iawn i chi.
Sut i ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Hunan-eiriolaeth
Mae'r pecyn cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth ynglŷn â pham fod hunan-eiriolaeth yn bwysig yn ogystal ag awgrymiadau ymarferol, technegau ac enghreifftiau i ddatblygu eich sgiliau hunan-eiriolaeth.
Mae ar gael yn Gymraeg a Saesneg.
Sgrolio i lawr i ddarllen pob un o'r pum adran o'r pecyn cymorth isod, ac yna animeiddiadau a senarios defnyddiol, a'n rhestr wirio Mae fy Llais yn Cyfrif.
Pecyn Cymorth Hunan-Eiriolaeth - Mae Fy Llais yn Cyfrif
Lawrlwythwch ac argraffwch y pecyn cymorth llawn i'w ddarllen yn eich amser eich hun
Dysgu am Hunan-eiriolaeth a Datblygu eich Sgiliau
Adran 1: Pam nad yw pryderon iechyd menywod bob amser yn cael eu clywed?
Adran 2: Beth yw hunan-eiriolaeth a pham ei fod yn bwysig?
Adran 3: 4 cam hawdd i ddechrau’r broses hunan-eiriolaeth
Adran 4: 15 awgrym hunan-eiriolaeth ymarferol
Adran 5: 13 o dechnegau i helpu i ddelio ag apwyntiadau iechyd
“Dydw i ddim yn hoffi cyfaddef fy mod i'n cael trafferth. Dydw i ddim eisiau cael fy labelu fel rhywun sy’n sâl. Er fy mod i'n gwybod nad yw'n wir, rwy'n teimlo fel y bydda i’n cael fy ystyried fel rhywun gwan, neu fel rhywun sydd ddim yn ddigon cryf i ddelio â phethau. Felly, pan fydda i’n cyfaddef o'r diwedd bod yna broblem, fe alla i fynd yn eithaf emosiynol, eisiau crio a dw i'n teimlo nad yw'n helpu eraill i fy nghymryd o ddifrif, yn enwedig gweithwyr iechyd proffesiynol nad ydynt yn fy adnabod i".
Hunan-eiriolaeth ar Waith: Animeiddiadau a Senarios Mae fy Llais yn Cyfrif
Gwyliwch hunan-eiriolaeth ar waith trwy wylio apwyntiadau gofal iechyd – mae un yn llwyddiannus a’r llall heb fod mor llwyddiannus - darllenwch enghreifftiau o sut i ddefnyddio'r sgiliau rydych chi wedi'u dysgu.
Enghraifft o sgwrs gofal iechyd anodd lle nad yw'r claf yn cael ei glywed:
Gwell sgwrs gofal iechyd lle mae'r claf yn defnyddio sgiliau hunan-eiriolaeth:
Hunan-eiriolaeth ar waith
Gall y pedwar senario isod fod yn ddefnyddiol ar gyfer deall sut y gall sgiliau hunan-eiriolaeth eich helpu i ymateb mewn sgwrs gofal iechyd.
Senario 1
Rydych chi'n cael sgîl-effeithiau, ond rydych chi'n teimlo bod y meddyg yn diystyru eich profiadau trwy ddweud mai'r driniaeth hon yw'r un orau ar gyfer eich cyflwr.

'Diolch am amlinellu budd y driniaeth benodol hon, yr wyf yn ei ddeall. Fodd bynnag, rydw i wedi sylwi, ers i mi ei dechrau, fy mod i'n cael poen tebyg i boen mislif cyson ac yn gwaedu’n ysgafn. Mae'n ei gwneud hi'n anodd iawn i mi ymdopi ac rwy'n gorfod cymryd amser i ffwrdd o'r gwaith o ganlyniad. Byddwn yn gwerthfawrogi edrych ar wahanol opsiynau'.
Senario 2
Rydych chi wedi darllen y dylid cynnig atgyfeiriad at ofal eilaidd ar gyfer eich cyflwr, ond mae'ch meddyg yn amharod i wneud un gan fod y rhestr aros mor hir ac maen nhw'n poeni os byddwch chi’n ymdopi tra byddwch chi’n aros.

'Diolch, rwy'n gwerthfawrogi eich bod chi wedi esbonio hyd y rhestr aros. Fodd bynnag, rydw i wedi rhoi cynnig ar gwpl o wahanol opsiynau triniaeth nawr ac rwy'n pryderu bod fy symptomau'n gwaethygu. Rwy'n credu y byddai’n well i mi fynd ar y rhestr aros am ofal eilaidd ar y pwynt hwn. Rydw i wedi gwirio canllawiau NICE ac mae'n cadarnhau hyn fel cam nesaf. Diolch am wneud yr atgyfeiriad i mi. Byddwn hefyd yn croesawu rhywfaint o gefnogaeth tra ydw i’n aros, os gallech awgrymu unrhyw wasanaethau sydd ar gael yn y maes hwn'.
Senario 3
Rydych chi'n cael trafferth dilyn yr holl fanylion ynglŷn â’r hyn a ddywedwyd wrthych yn ystod eich apwyntiad gofal iechyd.

'Diolch am esbonio'r holl fanylion am fy nghyflwr a’r opsiynau triniaeth. Fodd bynnag, rwy'n ei chael hi'n anodd cofio popeth rydyn ni'n ei drafod ac mae angen mwy o amser arnaf i feddwl am y cyfan. A allech chi ysgrifennu’r prif bwyntiau heddiw neu roi taflen i mi fel y galla i ddod yn ôl atoch i roi fy mhenderfyniad. A fyddai'n bosibl gwneud ail apwyntiad ymhen pythefnos? Diolch am hyn'.
Senario 4
Rydych chi'n teimlo bod eich meddyg yn canolbwyntio mwy ar eich iechyd meddwl a bod eich anghenion iechyd corfforol yn cael y bai am hyn.

'Rwy'n cytuno nad yw fy iechyd meddwl gystal y gallai fod. Fodd bynnag, mae byw gyda'r symptomau corfforol sydd gen i yn achosi straen ac yn effeithio ar lawer o agweddau ar fy mywyd. Rwy'n teimlo pe baem yn gallu gweithio gyda'n gilydd i reoli'r symptomau corfforol, byddai fy iechyd meddwl yn gwella'.
(Ac, os hoffech chi, gallech hefyd ofyn am atgyfeiriad at wasanaeth cwnsela neu gymorth iechyd meddwl ar gyfer yr effeithiau seicolegol ehangach hynny a achosir yn sgil byw gyda chyflwr cronig).
Rhestr Wirio Hunan-eiriolaeth FTWW
Rydym wedi cynllunio rhestr wirio syml ar gyfer gwell hunan-eiriolaeth yn seiliedig ar yr ymadrodd MAE FY LLAIS YN CYFRIF/MY VOICE COUNTS..
Gwneud amser i Chi
Lleisio eich symptomau, anghenion a dymuniadau
Perchnogaeth – eich iechyd ydyw!
Gwybodaeth – cadwch eich nodiadau yn barod
Gofynnwch yn bwyllog ac yn hyderus am eglurhad
Dywedwch beth yw eich disgwyliadau
Casglwch eich nodiadau ar ôl yr apwyntiad
Sylwch ar sut rydych chi'n teimlo
Ceisiwch ddeall beth ddigwyddodd
Peidiwch â chanolbwyntio ar deimladau negyddol
Gofalwch amdanoch chi eich hun
Gofynnwch am gymorth ychwanegol os oes angen
Gofynnwch am eich copi o Mae Fy Llais yn Cyfrif FTWW am ddim
Bydd hyn yn eich helpu i baratoi a chofio'r rhestr wirio yn eich apwyntiadau. Ar gael tra bod y stoc yn para!
The FTWW My Voice Counts self-advocacy toolkit has been developed with funding from the National Lottery, and the generosity of Sarah Seddon’s family and friends.
Our thanks also to FTWW’s members, and colleagues at Epilepsy Action for their contributions and insights.
