Beth yw 'hunan-eiriolaeth' a pham ei fod yn bwysig mewn gofal iechyd?

Y dudalen hon yw adran 2 o 5 o FTWW’s Mae fy Llais yn Cyfrif Becyn Cymorth Hunan-eiriolaeth

Beth yw hunan-eiriolaeth?

Hunan-eiriolaeth yw bod gan berson y gallu i ddeall, cyfathrebu a datgan ei anghenion, ei hawliau a'i fuddiannau eu hunain.

Mae'n ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus am y pethau sy'n bwysig i ni ac yn ein galluogi i gymryd mwy o reolaeth o'n bywydau. Mae'n arbennig o bwysig mewn gofal iechyd pan fo angen i ni esbonio ein symptomau a beth fydd yn ein helpu i sicrhau’r canlyniadau gorau posibl.

Pam fod hunan-eiriolaeth yn bwysig i fenywod mewn lleoliadau gofal iechyd?

Mae'n bwysig iawn bod gan fenywod y sgiliau i eirioli drostynt eu hunain mewn lleoliadau gofal iechyd oherwydd mae tystiolaeth yn awgrymu ein bod yn fwy tebygol na dynion o brofi oedi diagnostig a rhagfarn ynghylch rhywedd a all ei gwneud hi'n anos i ni gael y driniaeth sydd ei hangen arnom. Mae'r rhain yn aml yn cael eu disgrifio fel 'anghydraddoldebau iechyd sy’n ymwneud â rhywedd'.Er enghraifft, yng Nghymru, mae tystiolaeth yn dangos ei bod yn cymryd 26 o apwyntiadau â meddygon teulu a bron i 10 mlynedd i gael diagnosis o endometriosis, cyflwr mor gyffredin mewn menywod â diabetes neu asthma (Ffynhonnell: Gofal endometriosis yng Nghymru, Grŵp Gorchwyl a Gorffen Endometriosis).

Mae astudiaethau hefyd yn dangos bod menywod yn gorfod gwneud mwy o apwyntiadau na dynion i gael diagnosis o'r un cyflwr, er enghraifft, clefyd coronaidd y galon, lle adroddir bod meddygon teulu yn teimlo'n llawer mwy hyderus wrth ddiagnosio hyn mewn dynion nag mewn menywod.Yn yr un modd, gyda chanser y colon a'r rhefr, mae data yn dangos bod menywod yn tueddu i aros yn hirach na dynion ar ôl sylwi yn y lle cyntaf ar symptomau ac yna bod angen mwy o ymweliadau â'r meddyg i gael diagnosis (Ffynhonnell: : A yw dynion yn mynd yn llai na menywod at y meddyg?, BMJ)Ac o ran rheoli poen mewn lleoliadau brys, mae tystiolaeth yn dangos bod dynion yn fwy tebygol o dderbyn moddion lladd poen, tra bod menywod yn cael cynnig tawelyddion yn lle hynny.

Rydym hefyd yn fwy tebygol na dynion o fyw gyda salwch cronig ac anabledd wrth i ni heneiddio. Gall cael mynediad at y cymorth cywir yn gynnar helpu i atal ein hiechyd rhag gwaethygu ac effeithio ar wahanol agweddau ar ein bywydau, megis aros mewn addysg neu waith, cynnal perthnasoedd, a diogelwch ariannol.

Pam y gall siarad am eich iechyd fod yn anodd

Efallai y byddwch chi'n ystyried bod hunan-eiriolaeth mewn lleoliadau gofal iechyd yn heriol am y rhesymau canlynol:

1. Eich bod yn wael – os ydych chi'n flinedig, mewn poen, neu’n cael trafferth canolbwyntio neu feddwl yn glir, gall hyn ei gwneud hi'n llawer anos esbonio'ch symptomau a'u heffaith arnoch chi'n glir

2. Bod gwahaniaethau cyfathrebu neu heriau – os nad ydych chi'n siarad Saesneg fel iaith gyntaf, os oes gennych anghenion dysgu ychwanegol, neu os ydych chi'n niwroamrywiol, efallai y byddwch chi'n ei chael hi'n anos dod o hyd i'r geiriau sydd eu hangen arnoch i esbonio'ch problemau. Efallai y byddwch hefyd yn ei chael hi'n anos canolbwyntio ar y pethau y mae angen i'r meddyg eu gwybod i'ch helpu chi

3. Efallai y bydd anghydbwysedd o ran pŵer – mae'r meddyg yn aml yn cael ei weld fel y person sydd â'r wybodaeth wyddonol a chlinigol nad oes gennych chi fel claf, felly efallai y byddwch chi'n teimlo'n bryderus ynghylch sut maen nhw'n eich gweld chi a'ch profiad. Hefyd, y meddyg teulu fel arfer fydd y person sydd â'r pŵer i'ch atgyfeirio ar gyfer ymchwiliadau neu driniaeth bellach, felly efallai y byddwch chi'n teimlo bod yn rhaid i chi eu perswadio i'ch cymryd o ddifrif a gweithredu ar eich pryderon.

Pecyn Cymorth Hunan-eiriolaeth Mae fy Llais yn Cyfrif FTWW

Mae'r Pecyn Cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth, awgrymiadau, technegau ac enghreifftiau i ddatblygu eich sgiliau hunan-eiriolaeth

Gweld y Pecyn Cymorth Hunan-Eiriolaeth 

 

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth 

cyCymraeg