Endometriosis

Mae endometriosis mor gyffredin ag asthma neu ddiabetes, a chredir ei fod yn effeithio ar tua 1 ymhob 10 o fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am endometriosis a'n gwaith i wella mynediad at ofal iechyd ar gyfer y mater iechyd hwn.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

Beth yw endometriosis?

  • Mae endometriosis (a elwir hefyd yn 'endo') yn glefyd sy'n effeithio ar fenywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni
  • Credir ei fod yn effeithio ar 1 ymhob 10 o fenywod a merched, felly mae mor gyffredin â diabetes neu asthma
  • Gall effeithio ar bobl o bob oedran

Endometriosis yw pan fo meinwe sy'n debyg i leinin y groth i'w chael yn rhywle arall yn y pelfis, neu ar yr organau mewnol, ac weithiau mannau eraill yn y corff.

Mae smotiau neu 'namau' endometriosis yn achosi cosi poenus lleol, gwaedu a llid. Dros amser, gall creithiau ac adlyniadau ddatblygu o'r llid cronig a achosir gan y namau hyn. Gall adlyniadau (bandiau o feinwe craith) wneud i organau y tu mewn i'r abdomen lynu at ei gilydd ac weithio eu hatal rhag gweithio'n iawn. Maen nhw hefyd yn gallu achosi poen.

Rhai symptomau eraill o endometriosis yw teimlo'n chwyddedig, blinder, problemau gyda'r coluddyn a'r bledren, gwaedu o'r rectwm, poen yn y cefn a'r coesau, poen wrth gael rhyw ac archwiliadau mewnol, ac anffrwythlondeb. Yn aml, gall lefelau hormonau sy'n codi a gostwng effeithio ar y symptomau. Gall gymryd llawer o amser i gael diagnosis.

Mae endometriosis yn gyflwr iechyd cronig (hirdymor) ond mae triniaethau ar gael, sy'n gallu helpu i reoli'r symptomau, megis therapïau hormonau a gwahanol fathau o ddulliau lleddfu poen.

Efallai y bydd llawdriniaeth yn cael ei chynnig, pan ddefnyddir abladiad (llosgi'r meinwe sydd wedi'i ddifrodi) neu doriad (torri'r meinwe allan). Gall canlyniadau'r triniaethau hyn fod yn wahanol yn dibynnu ar y claf.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau endometriosis a thriniaethau ar gael ar wefan Endometriosis Cymru a gwefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).

Beth rydym ni'n galw amdano?

Ein nod cyffredinol yw gwella ansawdd bywyd pobl sy'n byw ag endometriosis

Credir bod endometriosis yn effeithio ar 1 ymhob 10 o fenywod a merched, felly mae mor gyffredin â diabetes neu asthma.

Er ei fod yn gyffredin, mae prinder ymwybyddiaeth o endometriosis, a gall rhai o'r symptomau gael eu diystyru fel rhai normal a 'rhan o fod yn fenyw'.

Gall gymryd mwy o amser i fenywod chwilio am gymorth, a phan fyddan nhw'n gwneud hynny gall gymryd amser hir iawn i gael diagnosis, a dechrau ar driniaeth effeithiol, oherwydd prinder hyfforddiant a gwybodaeth ymysg gweithwyr gofal iechyd proffesiynol. 

Gan fod y symptomau sy'n gysylltiedig ag endometriosis yn cael eu normaleiddio neu eu diystyru mor aml, gall fod yn anodd cael cymorth. Mae hyn yn un o'r rhesymau pan mae cymaint o oedi rhwng y symptomau'n dechrau a chael diagnosis a thriniaeth. Rheswm arall yw hyfforddiant annigonol am endometriosis ymysg darparwyr gofal iechyd.

Yng Nghymru, mae'r problemau gyda gofal ac ymchwil i endometriosis yn helaeth

  • Dylai cleifion sydd ag endometriosis difrifol gael eu hatgyfeirio i ganolfan arbenigol ar gyfer y cyflwr. Ar hyn o bryd, dim ond un canolfan arbenigol ar gyfer endometriosis sydd ar gael ar yr GIG yng Nghymru (yng Nghaerdydd) ar gyfer ymhell dros 150,000 o fenywod. Mae atgyfeiriadau gan fyrddau iechyd eraill yng Nghymru i'r ganolfan hon yn cael eu gwrthod gan mwyaf, sy'n mynd yn groes i ganllawiau NICE, ac sy'n gorfodi menywod i dalu'n breifat (sy'n amhosib i lawer). Mae hyn yn arwain at sefyllfa lle mae gofal iechyd pwysig yn troi'n 'loteri cod post'.
  • Yn fyd-eang, mae diffyg ymwybyddiaeth yn gyffredinol ymysg y cyhoedd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol fel ei gilydd, ynghyd ag ychydig iawn yn unig o ymchwil.
  • Mae prinder ymchwil a dealltwriaeth am y cyflwr yn cyfrannu at wneud i gleifion deimlo fel petaent yn dychmygu eu symptomau. Problem arall sydd wedi wynebu aelodau FTWW yw mythau fel 'mae poen mislif ddifrifol yn normal', sy'n gallu ychwanegu at oedi cyn diagnosio. Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Caerdydd yn 2018, mae'n cymryd tua 8 mlynedd a 26 o apwyntiadau gyda meddyg teulu i gael diagnosis o endometriosis yng Nghymru, sy'n fwy nag yn unrhyw ran arall o'r DU.
  • Ar hyn o bryd, ystyrir mai llawdriniaeth torri laparosgopig yw'r driniaeth orau ar gyfer endometriosis. Fodd bynnag, mae amseroedd aros hir ar gyfer y canolfannau arbenigol, sy'n aml yn troi'n flynyddoedd.
  • Gall fod yn anodd adnabod endometriosis a'i drin yn iawn, sy'n gallu arwain at fwy nag un llawdriniaeth ac at wneud i'r clefyd waethygu. Felly mae llawer mwy o ymchwil a hyfforddiant ar gyfer gynaecolegwyr ledled Cymru er mwyn osgoi hyn.
  • Yn ôl adroddiad diweddar gan Endometriosis UK, byddai 94% o'r rhai sydd ag endometriosis yng Nghymru wedi hoffi cael cymorth seicolegol ochr yn ochr â thriniaeth lawfeddygol a gofal meddygol ond ni chawsant gynnig hynny, o'i gymharu â 90% ar gyfartaledd yn y DU.
  • I rai cleifion, nid yw endometriosis yn achosi problem iddynt, ac nid oes llawer o symptomau. I rai eraill, gall achosi symptomau corfforol gwanychol, gan gynnwys poen gronig a chamweithrediad organau. Mae rhai cleifion yn eu cael eu hunain yn methu â chymdeithasu, gweithio na chadw perthnasoedd, ac mae rhai eraill yn profi anffrwythlondeb o ganlyniad i'r clefyd. Weithiau, mae cleifion yn dweud eu bod cael trallod seicolegol, gorbryder, ac iselder oherwydd y clefyd.

Mae angen i ni wneud y canlynol:

  • sicrhau bod menywod yn teimlo eu bod yn cael eu clywed ynglŷn â'u gofal iechyd, fel bod eu symptomau'n cael eu cymryd o ddifri a'u bod yn cael ymchwiliad mor gyflym â phosibl
  • mynd i'r afael â'r tabŵ, y cywilydd a'r stigma sydd o gwmpas clefyd sy'n cynnwys mislif poenus ac ysgarthiadau poenus, oherwydd gall cywilydd ychwanegu at yr oedi cyn chwilio am ofal iechyd
  • annog buddsoddi mewn ymchwil, ymwybyddiaeth, a darparu gwasanaeth gan y rhai sydd mewn sefyllfa i greu gwelliannau o fewn ein systemau addysg, iechyd a gofal.

Ein hyrwyddwr Rachel J

 

"Cefais ddiagnosis o Endometriosis pan oeddwn i'n 18 oed, a dechreuais wirfoddoli i FTWW yn Ebrill 2021. Fy mhrofiad bywyd o endometriosis a'r heriau a oedd yn gysylltiedig â chael gofal (a'r effeithiau y mae hyn yn eu cael ar eich bywyd yn gyffredinol), yn ogystal â'r storïau lu am brofiadau ofnadwy pobl eraill, sydd wedi tanio fy mrwdfrydedd dros greu newid i gleifion endometriosis ac yn gyffredinol o ran anghydraddoldebau iechyd menywod.

Yn 2021, penderfynais ymroi'n llwyr i greu newid o'r fath. Ac wrth geisio canfod ffyrdd o wneud hynny, fe ddes i ar draws FTWW, ac rydw i mor falch o hynny! Mae FTWW wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi sicrhau bod fy llais yn cael ei glywed ac i mi ddechrau (a pharhau) i greu newid er mwyn pobl eraill.

Yn Ionawr 2023, dechreuais i PhD mewn Iechyd, wedi'i ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru ym Mhrifysgol Caerdydd. Bydd y PhD yn hybu ein dealltwriaeth o sut mae gwefan endometriosis.cymru a'r Teclyn Adrodd am Symptomau yn gallu gweithio i helpu i ddiagnosio endometriosis yn fwy prydlon a gwella dulliau cyfathrebu rhwng cleifion a'u meddygon teulu. Y gobaith yw bydd cwblhau'r PhD yn arwain at sefyllfa lle bydd byd eiriolaeth y trydydd sector a byd ymchwil academaidd yn dod at ei gilydd i greu rhagor o ymchwil effeithiol a pherthnasol ar gyfer y dyfodol."

Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i wella bywydau pobl sy'n byw â PMDD. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:

Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
  • Mae ein hyrwyddwr Rachel wedi ennill Gwobr Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Wedi cynnal, neu gyd-gynnal gydag Endometriosis UK, ddigwyddiadau blynyddol yn Senedd Cymru ac ar-lein i drafod gofal endometriosis yng Nghymru
  • Wedi noddi'r orymdaith Endo flynyddol yng Nghaerdydd, Abertawe neu Landudno

  • Wedi rhoi sgyrsiau ar lesiant misol ac endometriosis i wahanol sefydliadau a busnesau ledled Cymru

  • Wedi cyfrannu at lawer o sylw i endometriosis ar y cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys y rhaglen ddogfen ar ITV, 'Living in Pain'

  • Wedi cyflwyno Safbwyntiau Cleifion mewn gwahanol ddigwyddiadau hyfforddiant meddygol a chynadleddau, gan gynnwys cynhadledd y BSGE (Y Gymdeithas Brydeinig ar gyfer Endosgopi Gynecolegol) yng Nghasnewydd, a gweminar ar gyfer gynaecolegwyr ledled y DU, dan ofal Braun

  • Trefnodd ein hyrwyddwr, Rachel, ddigwyddiad codi arian llwyddiannus yn ei hen weithle ar gyfer digwyddiad #Yellow4endo FTWW

Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
  • Mae ein gwaith wedi arwain at sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen gan Lywodraeth Cymru i werthuso gofal endometriosis yng Nghymru
  • Wedi gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd, GIG Cymru, clinigwyr a chleifion i gyd-gynhyrchu gwefan Endometriosis Cymru
  • Wedi helpu i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn ariannu o leiaf un nyrs endometriosis ymhob bwrdd iechyd yng Nghymru
  • Rydym ni wedi cyd-gynhyrchu hyfforddiant dan arweiniad cleifion ar gyfer pob Nyrs Endometriosis newydd yng Nghymru
  • Mae ein hyrwyddwr Rachel yn aelod o Fforwm Cleifion RCGP
  • Rydym ni wedi sicrhau bod adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru yn cynnwys pennod ar endometriosis.
  • Rydym ni'n gweithio gyda'r Rhwydwaith Gweithredu Gynaecoleg clinigol cenedlaethol yng Nghymru i wella gofal i gleifion â chyflyrau gynecolegol nad ydynt yn ganser, fel endometriosis
  • Rydym ni wedi sicrhau bod endometriosis yn ymddangos yn Natganiad Ansawdd Iechyd Menywod Cymru a Chynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru
  • Rydym ni'n gweithio gyda'r Rhwydwaith Gweithredu Gynaecoleg clinigol cenedlaethol yng Nghymru i wella gofal i gleifion â chyflyrau gynecolegol nad ydynt yn ganser, fel endometriosis
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
  • Rydym ni wedi cyflwyno safbwyntiau cleifion endometriosis mewn digwyddiadau ac ymchwiliadau gan Senedd Cymru, gan gynnwys y Grŵp Trawsbleidiol ar Iechyd Menywod
  • Cawn ein cynrychioli ar Fwrdd Crwn Urddas y Mislif Llywodraeth Cymru, gan gadeiryddiaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, lle mae lleihau tabŵs am gyflyrau fel endometriosis yn rhan o Strategaeth Cymru sy'n Falch o'r Mislif
  • Rydym ni'n bartner cyhoeddus ar gwrs hyfforddi Nid yw Poen Mislif Ddifrifol yn Normal ar gyfer addysgwyr a nyrsys ysgol, gyda'r nod o wella gwybodaeth am brif symptomau endometriosis yn yr ysgol

    Newyddion a blogiau cysylltiedig

    FTWW yn cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr

    FTWW yn cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr

    Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i Gynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) gyda thua 100 o obstetryddion a gynaecolegwyr ledled Cymru ar 7 Tachwedd, i wneud cyflwyniad ochr yn ochr â Dr Robyn Jackowich a Rachel Joseph o Brifysgol Caerdydd ar brosiectau a gweithgareddau sy'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg yng Nghymru.

    Endometriosis Cymru – Astudiaeth RAISE

    Endometriosis Cymru – Astudiaeth RAISE

    Researchers at Cardiff and Bangor University, (including FTWW Volunteer Endometriosis Champion, Rachel!) want to find out what works (or doesn’t!) in using tracking apps/diaries, specifically the Endometriosis Cymru Symptom Reporting Tool.

    Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn

    Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn

    As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and chronically ill women and people registered female at birth – and their employers – are aware of existing legislation that can protect their employment rights and help them thrive in the workplace.

    Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

    Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

    Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

    cyCymraeg