Stori Llinos

Enw: Llinos B
Lleoliad; Y Rhyl, Gogledd Cymru
Roeddwn i'n gwybod nad oedd fy mhoen barhaus yn normal, ond doedd gen i ddim syniad beth oedd o'i le.

Diwedd hapus sydd i fy stori. Hynny ydy, gobeithio mai dyma ddiwedd saga sydd wedi para deng mlynedd. Rwy'n teimlo mor hapus heddiw diolch i waith a chefnogaeth anhygoel FTWW, roedd y merched sy'n ei redeg wedi 'dod o hyd' i fi mewn grŵp endo arall ac wedi fy ngwahodd i ymuno ag FTWW pan oedd newydd dechrau (llai na 30 o aelodau pan ymunais i ym Mawrth 2015).

Mae'r saga'n dechrau mewn gwirionedd mor bell yn ôl â fy mislif cyntaf pan oeddwn i'n 11 oed. Mi wnes i ddioddef blynyddoedd o fislif trwm a phoenus ofnadwy, yn ogystal â phoen wrth ysgarthu yn ystod fy mislif. Yr unig berson y gwnes i siarad â nhw am hyn oedd fy mam, a byddai hi bob amser yn dweud bod y pethau hyn yn normal a'i bod hithau hefyd yn cael y problemau hyn. Pan oeddwn i yn fy ugeiniau fe ddaeth fy mislif i ben yn llwyr dros amser, ond yna dechreuais i gael poenau tebyg i'r mislif drwy gydol y mis, yn ogystal â phoen yn y cefn a'r coesau a phoen wrth gael rhyw.

Yn y pen draw, siaradais gyda fy meddyg teulu am hyn yn 2006. Rhoddodd lythyr doctor i mi gael amser o'r gwaith am 5 wythnos am 'malaise', teimlo'n isel, a chynigiodd feddyginiaeth gwrth-iselder i mi ond mi wnes i wrthod. Roeddwn i'n gwybod nad oedd y boen gyson yn normal, ond doedd gen i ddim syniad beth oedd o'i le. Cefais fy atgyfeirio at gynecolegydd am nad oeddwn yn cael milslif. Roedd yr archwiliadau mewnol mor drawmatig fel bod fy meddyg teulu wedi rhoi tawelyddion i mi ar bresgripsiwn er mwyn i mi allu dioddef yr apwyntiadau. Ond doedd dim sôn o hyd am endometriosis.

Erbyn i rywun grybwyll endometriosis, roeddwn i wedi gweld pedwar clinigydd gwahanol. Doeddwn i erioed wedi clywed am endo ac roedd rhaid i mi ofyn i'w weld ar bapur.

Yn fy apwyntiad cyntaf gyda gynecolegydd yr oeddwn i wedi'i weld o'r blaen, ond a oedd heb grybwyll endo, dywedodd fod dau ddewis gen i os mai endo oedd o, sef cael plant neu gael hysterectomi. Doedd yr un o'r dewisiadau'n swnio'n iawn i mi, ac rwy'n falch o ddweud na wnes i gytuno i'r naill na'r llall. Cefais laparosgopïau, gyda diathermedd (llosgi) yn 2009 ac eto yn 2012. Roeddwn i'n cymryd fy mod i'n cael y driniaeth gywir a'r orau. Pam fyddwn i'n cwestiynau'r person oedd yn arbenigwr i fod? Ond mi oeddwn i'n gwybod nad oedd diathermedd yn iachâd, ac roeddwn i wedi cymryd y byddai'n rhaid i mi gael llawdriniaeth bobb tair blynedd.

Tua Medi 2014 daeth y boen yn ôl yn raddol, felly dechreuais roi negeseuon ar rai grwpiau cymorth ar gyfer endo ar Facebook. Roedd llawer o'r grwpiau'n gwneud i mi fy ngwestiynu fy hun a oedd y boen cynddrwg ag yr oedd yn teimlo. Roedd fel petai cystadleuaeth rhwng y merched ynglŷn â phwy oedd yn cael y boen waethaf, pwy oedd ag endo ar y lefel uchef, ac ati – ond doedd dim atebion gwirioneddol yn cael eu cynnig. Diolch byth fod merched FTWW wedi fy 'achub' i ac wedi fy helpu i ddeall fy symptomau.

Mae FTWW wedi bod yn fendith wirioneddol. Mae'r cymorth gan holl ferched y grŵp Facebook yn anhygoel, yn ymarferol, yn realistig ac nid yw'n gystadleuaeth. Mae modd siarad am unrhyw beth.

Dim ond drwy FTWW yr ydw i wedi cael gwybod mai torri'r clefyd allan, nid diathermedd, oedd y driniaeth orau ar gyfer endo. Dim ond drwy FTWW y clywais i am Ganolfannau Endometriosis BSGE. Dim ond drwy FTWW y clywais i am y llwybr atgyfeirio at merched Gogledd Cymru i Ysbyty Arrowe Park. Dim ond drwy FTWW yr oeddwn i'n gallu rhoi'r ffeithiau i fy meddyg teulu am y llwybr hwn a gofyn am atgyfeiriad. Dim ond drwy FTWW y cefais fy atgyfeirio i'r ganolfan arbenigol, cefais lawdriniaeth echdorri, ac rwyf wedi cael fy mywyd yn ôl! Dim ond drwy FTWW y mae fy ngŵr a phawb o fy nghwmpas wedi cael eu gwraig, eu chwaer, eu modryb, eu ffrind a'u cydweithwraig yn ôl!

Eisiau gwybod rhagor am endometriosis a beth rydym ni'n ymgyrchu drosto?

cyCymraeg