Astudiaeth Achos Pecyn Cymorth: Adroddiad Eliza ar chwilio am help gan ei darparwyr gofal iechyd.

A woman, who is Eliza, wearing a beige coat and an FTWW lanyard smiles while standing in front of the Houses of Parliament.
Name: Eliza
Location: South Wales
Nid yw dyfalbarhau’n golygu eich bod yn ymddwyn yn ddramatig nac anodd. Mae’n golygu eich bod yn deall eich corff eich hun ac yn gwybod bod eich iechyd yn bwysig.

Roeddwn oddeutu 13 oed pan ddechreuais brofi symptomau y gwyddwn yn awr a oedd yn gysylltiedig ag endometriosis. Ar y pryd, doedd gen i mo’r iaith i ddisgrifio’r hyn oedd yn digwydd imi. Yr unig beth roeddwn yn ei ddeall oedd poen.

Un o fy atgofion cyntaf o’r boen yw eistedd mewn cadair a minnau yn fy arddegau, yn sgrechian mewn poen gyda fy mam yn edrych arnaf mewn dryswch i ddechrau ac yna pryder wrth i’r boen barhau a pharhau. Roeddwn yn gwingo oherwydd y gwayw yn fy mhelfis, ond ni allwn godi o’r gadair, ac roeddwn yn credu o ddifrif fy mod yn marw.

Yn ogystal â’r boen, roeddwn wedi ymlâdd drwy’r amser. Dros amser, roeddwn yn profi poen difrifol yn y pelfis a’r abdomen, yn fy nghefn, fy ysgwydd a fy mrest, mislif poenus a gwaedu rhwng y mislif, cyfog a salwch, gorfod rhuthro i basio wrin a hynny’n aml, a phoen gyda symudiadau’r coluddion, poen ar ôl rhyw a lludded difrifol.

Roedd y symptomau hyn yn cael effaith fawr ar fy mywyd, collais gyfnodau hir o’r ysgol, roedd canolbwyntio’n anodd, ac roeddwn yn teimlo’n sâl hyd yn oed y tu allan i gyfnod y mislif. Anaml iawn y byddwn yn sôn am yr hyn roeddwn yn mynd trwyddo ac roeddwn yn teimlo cywilydd. Roeddwn yn dechrau credu fy mod yn wan neu’n gorymateb.

Mi es i weld y meddyg teulu am y tro cyntaf ym mis Hydref 2006, pan oeddwn yn 13 oed, am fy mod wedi ymlâdd drwy’r amser ac yn absennol o’r ysgol yn aml. Mi oeddwn yn cysgu am 16 awr y dydd yn ystod fy mislif. Nid oedd hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn hyderus yn ei wneud ar fy mhen fy hun, roedd yn dod gydag ymwybyddiaeth a phryderon y teulu, ond nid oeddwn yn siŵr sut i egluro’r hyn oedd yn digwydd imi.

Roeddwn mewn poen ac ni allwn godi o’r gwely. Trefnodd fy mam yr apwyntiad ac mi ddaeth hi yno gyda mi gan fod fy mhryderon a fy mhoen yn amlwg iddi.

Roeddwn yn nerfus cyn yr apwyntiad, ond roeddwn yn ymddiried yn fy meddyg teulu ac y byddai’n fy helpu er fy mod yn cael anhawster egluro fy symptomau a sut yr oeddwn yn teimlo. Roeddwn yn hyderus y byddai’r meddyg teulu’n llwyddo i fynd i wraidd y broblem.

Roedd yr archwiliadau cychwynnol yn canolbwyntio ar y lludded. Roedd y profion gwaed yn normal, a chafodd y symptomau eu priodoli i ‘adwaith ail-addasu’ neu o bosibl dwymyn y chwarennau. Dywedwyd wrthyf am orffwys.

Ym mis Ionawr 2007, euthum yn ôl am nad oedd y lludded wedi gwella. Trafodwyd cynnal prawf Paul Bunnell/monospot, ac roedd y pwyslais o hyd ar dwymyn y chwarennau. Yn ystod y cyfnod hwn, dywedwyd wrtha i am ‘beidio cusanu bechgyn’ er nad oeddwn wedi cusanu neb erioed. Daeth y prawf yn ôl yn negyddol.

Yn ystod yr apwyntiadau cynnar hyn, roeddwn yn teimlo nad oedd neb yn gwrando arnaf mewn ffordd gyfannol. Roedd fy symptomau’n cael eu trin fel rhai ar eu pen eu hunain, , ac roeddwn yn teimlo’n ddryslyd, wedi fy niystyru, ac yn llai a llai sicr o fy nghorff fy hun. Er gwaethaf hyn, roedd gen i ffydd yn fy meddyg teulu ac yn dal i ymddiried ynddynt ac yn dal i obeithio eu bod yn mynd i allu fy helpu. Roedd fy nheulu’n fy annog i ymddiried mewn gweithwyr meddygol.

Yn ystod y blynyddoedd nesaf, mi es i nifer fawr o apwyntiadau meddygol gyda symptomau a oedd yn gwaethygu ac yn gorgyffwrdd.

Awgrymwyd gwahanol esboniadau, gan gynnwys straen a gorbryder, adlif, heintiau ar y llwybr wrinol, problemau â’r bledren, poen mislif ‘arferol’ a chlefydau a drosglwyddir drwy ryw. Roedd yr awgrym y gallai fy symptomau fod yn ganlyniad i STI wedi arwain at bryderon fy mod yn anffyddlon i fy mhartner. Achosodd hyn drallod emosiynol sylweddol a chafodd effaith andwyol ar fy mherthynas â fy mhartner.

Rhagnodwyd y bilsen atal cenhedlu imi pan oeddwn yn 16 oed, ac wedyn pigiad depo yn 2010, a’r coil yn 2014, ond nid oedd y rhain yn rhoi sylw i’r broblem sylfaenol ac aeth pethau o ddrwg i waeth.

Pan oeddwn yn y brifysgol (2012–2016), gwaethygodd fy symptomau’n sylweddol. Roedd gen i boen difrifol yn y pelfis, roedd symptomau’r bledren yn gwaethygu, roeddwn yn gorfod rhuthro’n amlach i’r toiled, roeddwn yn profi gorflinder difrifol, poenau yn fy nghefn a fy nghoesau, ac roeddwn yn cael anhawster anadlu’n ddwfn.

Cefais sawl prawf oherwydd amheuaeth o UTI, ac er gwaethaf y canlyniadau negyddol, cefais fy atgyfeirio at yr adran wroleg. Yn 2014, cefais cystosgopi, ymlediad y bledren, a biopsi, a ddangosodd lid difrifol.

Er fy mod wedi cael triniaethau ar y bledren, nid oedd patrwm ehangach y symptomau’n cael ei gydnabod. Roeddwn yn teimlo nad oeddwn yn cael yr hyn oedd ei angen arnaf o’r apwyntiadau ac yn aml teimlwn nad oedd neb yn fy nghredu.

Roedd yr effaith ar fy addysg a fy mywyd yn ddifrifol. Roeddwn yn colli darlithoedd, gohiriais flwyddyn o brifysgol, ac roeddwn yn osgoi perthnasoedd a gweithgareddau cymdeithasol. Ar fy ngwaethaf, mi allwn gysgu am 20 awr y dydd yn ystod fy mislif ac roeddwn yn dal wedi ymlâdd.

Yr hyn a wnaeth imi ddechrau chwilio am ragor o wybodaeth a help oedd bod fy nghyflwr wedi gwaethygu erbyn canol fy ugeiniau, ynghyd ag ymdeimlad cynyddol o fod wedi fy ynysu a’r teimlad nad oedd neb mewn lleoliadau gofal iechyd yn deall fy mhrofiadau.

Ar ôl cwblhau fy ngradd meistr a chael swydd roeddwn wedi bod yn ei dyheu fel gwyddonydd Ymchwil a Datblygu, aeth y boen mor ddifrifol nes fy mod yn teimlo bod angen cadair olwyn arnaf ar adegau am fod cerdded mor boenus imi. Roedd hwn yn drobwynt pan wnes i sylweddoli bod rhywbeth mawr o’i le arnaf ac mi ddechreuais amau’r meddygon teulu a’r gweithwyr meddygol proffesiynol eraill a oedd yn gyfrifol am fy ngofal.

Tua’r adeg hon, mi ddechreuais ymchwilio i fy symptomau ar fy mhen fy hun a chwiliais am help drwy gymunedau cleifion ar-lein. Dyma pryd y deuthum ar draws gwybodaeth am endometriosis. Dyma oedd y tro cyntaf imi ddod ar draws pobl eraill yn disgrifio profiadau tebyg i fy rhai i ac, am y tro cyntaf roeddwn yn gweld fy symptomau’n cael eu disgrifio yn yr hyn roeddwn yn ei ddarllen. Defnyddiais dempled ar-lein i gadw dyddiadur o symptomau i ddeall y patrymau’n well ac i baratoi am apwyntiadau.

Drwy fy ngwaith, mi oeddwn yn cael yswiriant meddygol preifat a chefais fy atgyfeirio at arbenigwr. Roedd yr help a gefais gan y cwmni yswiriant yn wych a chefais restr ganddynt o arbenigwyr roeddent yn eu hargymell.

Rwyf yn cofio bod yn rhaid imi gael llythyr atgyfeirio gan fy meddyg teulu i’w roi i’r cwmni yswiriant, a hyd yn oed yn ystod yr alwad ffôn honno, a minnau’n 27 oed, roedd fy symptomau’n dal i gael eu disgrifio gan fy meddyg teulu fel ‘dim ond poenau mislif drwg’ a dywedwyd wrthyf, ‘Na ddylwn drafferthu cael fy atgyfeirio gan fod hyn yn “arferol” ac mai “dim ond rhoi’r bilsen imi fyddan nhw beth bynnag”’.

Fodd bynnag, pan welais yr arbenigwr, roedd y profiad yn un gwahanol iawn. Ar ôl gwrando’n astud ar fy symptomau, dywedodd ei bod yn debygol bod gen i endometriosis. Cyfeiriodd fi hefyd at sefydliadau fel Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (FTWW) ac Endometriosis UK tra’r oeddwn yn aros am sgan MRI ac wrth ystyried opsiynau posibl ar gyfer triniaeth.

Cadarnhaodd yr MRI a llawdriniaeth laparosgopig endometriosis cam IV cymhleth a helaeth, a oedd yn effeithio ar sawl rhan gan gynnwys septwm rhefrweiniol, y colon sigmoid, y pendics, wal yr abdomen, y diaffram, y coluddyn a’r bledren.

Yn y diwedd, doedd dim rhaid imi ddibynnu ar y dyddiadur symptomau roeddwn wedi’i baratoi gan fod yr arbenigwr yn adnabod y symptomau ar unwaith. Roeddwn yn teimlo fy mod yn cael fy mharchu a bod rhywun yn gwrando arnaf, wnaeth o ddim gwneud imi gwestiynu fy mhwyll o gwbl na fy hunaniaeth dros fy nghorff.

Roedd cael y diagnosis yn rhyddhad ac yn dilysu’r hyn roeddwn wedi bod yn ei ddweud, ond mi oeddwn yn teimlo dicter a galar hefyd am fod y broses wedi cymryd cyhyd.

Yn ogystal â FTWW ac Endometriosis UK, mae fy nheulu wedi bod yn gefnogaeth gyson imi. Ar ôl cael diagnosis, dywedodd Mam wrthyf ei bod hithau wedi cael diagnosis o endometriosis a’i bod yn ei ugeiniau hwyr cyn ei gael. Fodd bynnag, oherwydd y symptomau amrywiol nid oedd yn sylweddoli faint o effaith y gallai endometriosis ei gael gan fod ei symptomau hi mor wahanol i fy rhai i, ac nid oedd ychwaith wedi priodoli rhai o’i symptomau hi i endometriosis.

Roedd cael cymorth allanol gan yr ymgynghorydd yn y ganolfan drydyddol leol ar gyfer endometriosis a chael ei chyfeirio at FTWW ac Endometriosis UK wedi newid ei bywyd.

Mi wnaeth fy helpu i deimlo fy mod wedi dilysu popeth ac yn llai unig ac i ddeall nad oedd fy symptomau yn ‘normal’, nad oedd bai arnaf a bod clefyd penodol a oedd wedi achosi’r symptomau niweidiol hyn ar hyd yr adeg. Mae wedi fy helpu i fagu’r hyder i frwydro drosof fy hun ac i ganfod adnoddau a gwybodaeth y gallaf ymddiried ynddynt.

Dros amser, mae’r cymorth hwn wedi fy helpu i siarad â meddygon a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, ac rwyf yn teimlo fy mod yn gallu cael mwy o’r apwyntiadau am fod cael gafael ar wybodaeth a help drwy sefydliadau fel FTWW ac Endometriosis UK wedi rhoi’r iaith a’r hyder imi i ddisgrifio fy symptomau’n eglur ac i ofyn cwestiynau uniongyrchol. Rwyf wedi dod yn fwy cyfforddus wrth ofyn am atgyfeiriadau, wrth herio esboniadau nad wyf yn hapus â hwy, a sicrhau bod fy mhryderon yn cael sylw llawn. Mae hyn yn newid mawr o fy mhrofiadau cynharach lle nad oedd neb yn gwrando arnaf nac yn fy nghredu ac mi oedd hynny’n golygu fy mod yn gadael apwyntiadau gan deimlo nad oedd neb yn gwrando arnaf a lle’r oeddwn yn dechrau colli ffydd mewn gweithwyr meddygol proffesiynol.

Roedd cael y diagnosis yn rhyddhad ac yn dilysu’r hyn roeddwn wedi bod yn ei ddweud, ond mi oeddwn yn teimlo dicter a galar hefyd am fod y broses wedi cymryd cyhyd. Mae fy nghyflwr yn parhau ac mae’n un cymhleth, ond mae’n cael ei reoli’n well yn awr nag yn y gorffennol. Mae cadarnhad o’r diagnosis wedi gwneud gwahaniaeth enfawr o ran cael gofal priodol a deall yr hyn mae fy nghorff yn ei brofi. Er bod y symptomau’n dal i effeithio ar fy mywyd o ddydd i ddydd, mae gen i nawr help wedi’u strwythuro, opsiynau ar gyfer triniaeth heblaw’r bilsen, a gwell dealltwriaeth o sut i reoli’r cyflwr pan fydd yn gwaethygu ac i gynllunio o gwmpas fy iechyd.

Er bod fy nghyflwr yn parhau ac mae’n un cymhleth, rwy’n teimlo’n awr bod gen i fwy o wybodaeth a fy mod wedi fy ngrymuso er bod rhai heriau sylweddol o hyd. Hyd yn oed ar ôl dwy lawdriniaeth toriad, mae endometriosis yn dal i effeithio ar lefel y boen, ynni, ac ansawdd bywyd yn gyffredinol, yn ogystal â gwaith, perthnasoedd, a gweithrediadau o ddydd i ddydd.

Mae heriau parhaus o ran gofal iechyd hefyd, gan gynnwys oedi, amrywiadau o ran gofal, anallu i gael triniaeth toriad oherwydd fy lleoliad, a’r angen diddiwedd i eiriol dros fy hun oherwydd y diffyg dealltwriaeth sy’n gysylltiedig ag endometriosis fel cyflwr cronig, system, llidus gydag arwyddion gynaecolegol ac nid mislif drwg yn unig.

Rwyf yn teimlo erbyn hyn fy mod yn deall yr heriau hyn ac mi allaf siarad yn agored amdanynt. Mae gen i’r hyder yn awr i sylweddoli os nad yw rhywbeth yn iawn, i chwilio am gymorth priodol, ac i gyfleu fy anghenion yn glir. Nid wyf bellach yn gweld fy hun fel rhywun sy’n ‘gorymateb neu’n wan’, ond fel rhywun sy’n deall eu cyflwr, sy’n haeddu gofal priodol, ac sydd wedi’i grymuso i ofyn amdano.

Heb amheuaeth mi fuaswn yn annog pobl i ddyfalbarhau yn eu hymdrech i gael gofal meddygol, hyd yn oed os yw hynny’n anodd neu os oes rhywun yn ceisio eich troi yn erbyn y syniad. Gofynnwch am ail neu drydedd barn os bydd angen.

Gall endometriosis effeithio ar bob agwedd ar fywyd, addysg, gwaith, iechyd meddwl, perthnasoedd, a hunaniaeth. Mae pobl yn haeddu cael eu clywed yn llawer cynharach nag sy’n digwydd yn aml.

Nid yw dyfalbarhau’n golygu eich bod yn ymddwyn yn ddramatig nac anodd. Mae’n golygu eich bod yn deall eich corff eich hun ac yn gwybod bod eich iechyd yn bwysig.

Dyma fy nhri phrif awgrym ar gyfer darllenwyr:

  1. Cadwch gofnod ysgrifenedig o symptomau ac apwyntiadau gan fod patrymau’n dod yn fwy eglur dros amser.
  2. Gofynnwch am ail, trydedd neu bedwaredd barn os bydd angen. Nid yw clywed dro ar ôl tro bod rhywbeth yn ‘normal’ yn golygu eu bod yn gywir. Chi sy’n adnabod eich corff orau, peidiwch â gadael i neb fychanu eich poen. Mae’n anodd i bobl heb endometriosis ddeall goblygiadau llawn y cyflwr.
  3. Chwiliwch am gymorth, drwy elusennau, cymunedau, ffrindiau, neu deulu. Amgylchynwch eich hun â phobl sy’n eich gwneud yn hapus a diogel, a fydd yn gefn i chi ac yn barod i frwydro drosoch pan fyddwch wedi blino ymladd drosoch eich hun. Bydd cael rhywun sy’n eich credu’n gwneud byd o wahaniaeth.

Mae’r stori hon yn rhan o Becyn Cymorth Hunan eiriolaeth Mae Fy Llais yn Cyfrif FTWW. I ddychwelyd i’r pecyn cymorth cliciwch yma.   

Dyma rai meysydd ymgyrchu...

Menopos

Beth am addysgu a grymuso'r rhai sy'n profi'r menopos? Mae'n fwy na theimlo'n boeth!

Endometriosis

Mae endometriosis yn effeithio ar o leiaf un ymhob deg o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni.

Awtoimiwnaidd

Mae menywod bedair gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu clefydau awtoimiwnedd na dynion.

cyCymraeg