Cynghrair Iechyd Menywod Cymru
Mae FTWW yn gyd-gadeirydd Cynghrair #IechydMenywodCymru, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi'r flaenoriaeth i ofal iechyd menywod
Mae Cynghrair Iechyd Menywod Cymru yn dwyn ynghyd dros chwe deg o elusennau, sefydliadau ambarél ledled y DU, Colegau Brenhinol a chynrychiolwyr cleifion yng Nghymru.
Mae'r gynghrair yn cael ei chadeirio ar hyn o bryd gan FTWW (Triniaeth Deg i Fenywod Cymru).
Pam mae angen y gynghrair?
Menywod, merched a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yw 51% o'r boblogaeth yng Nghymru. Er gwaethaf hyn, nid yw meddygaeth a gwasanaethau gofal iechyd wedi diwallu eu hanghenion bob amser, gan arwain at wahaniaethau mawr yn y gofal rhwng dynion a menywod, sydd wedi mynd yn waeth yn sgil y pandemig.
Mae modd gweld anghysondebau ledled Cymru yn y ddarpariaeth gwasanaethau iechyd menywod, ond mae modd eu gweld hefyd mewn gofal i glefydau sy'n effeithio ar ddynion a menywod fel ei gilydd, gyda menywod yn profi canlyniadau cymharol wael.
Mae data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn datgelu bod menywod yn gallu byw llai o flynyddol 'yn rhydd o anabledd' na dynion felly mae anghydraddoldebau yn arwain at bris i'w dalu gan fenywod o ran eu hiechyd, eu llesiant, ansawdd eu bywydau, a'u bywydau.
Maniffesto 2026-2030: Canolbwyntio ar y 51%
Canolbwyntio ar y 51% yn amlinellu gweledigaeth glir ar gyfer dyfodol lle mae llesiant menywod, teuluoedd, a’r gymdeithas yn ehangach yn cael ei sicrhau. Mae’n galw ar Lywodraeth nesaf Cymru i flaenoriaethu iechyd menywod ar draws pob maes polisi, ac mae’n galw ar GIG Cymru i sicrhau bod y Cynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd, a gyhoeddwyd yn 2024, yn cael ei roi ar waith.
Datganiad Ansawdd 2022
Fel cyd-gadeiryddion #CynghrairIechydMenywod, fe wnaeth FTWW a BHF Cymru hwyluso'r gwaith o gyd-gynhyrchu Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod yng Nghymru.
Mae'r adroddiad yn trafod sut mae menywod yng Nghymru yn cael canlyniadau iechyd gwaeth na dynion, a bod angen camau ar frys i sicrhau eu bod yn cael gofal a thriniaeth gyfartal.
Newyddion am Gynghrair Iechyd Menywod
FTWW Statement on the NHS Wales 10-year Women’s Health Plan
We are delighted to be sharing this statement at such an exciting time for women’s health in Wales as a 10-year Plan is launched by the Welsh Government. Those who have followed FTWW over the ten years since our inception will know that we have long sought to raise...
Rhoi Sylw i Ganserau Gynaecolegol - a mwy!
FTWW Statement on Senedd Health & Social Care Committee Inquiry into Gynaecological Cancers & Plenary debate (15/05/24) Breaking the Silence on Gynaecological Cancers - and Beyond! Having contributed extensively to the recent inquiry into gynaecological...
Women’s Health Plan for Wales Launched by Third Sector Coalition
A report published by a coalition of charities and health organisations, on International Day of Action for Women’s Health, says women in Wales have poorer health outcomes than men and urgent action is needed to ensure they receive equal care and treatment. Leading...
Aelodau'r Gynghrair
Mae'r Gynghrair yn cynnwys cynrychiolwyr a / neu mae'n cael cefnogaeth gan:
FTWW: Triniaeth Deg i Fenywod Cymru (Cadeirydd)
- Action for ME
- Pobl yn Gyntaf Cymru
- Asthma and Lung UK
- Autistic UK
- Anhwylderau Bwyta BEAT
- Breast Cancer Now
- Cymdeithas Brydeinig y Dermatolegwyr
- British Heart Foundation Cymru
- Gwasanaeth Cynghori Beichiogrwydd Prydain (BPAS)
- Brook
- Ymgyrch yn erbyn Hysterosgopi Poenus
- Ymgyrch Claire
- Cyngor Gwasanaethau Gwirfoddol Sir Ddinbych
- Diabetes UK
- Anabledd Cymru
- Ehlers Danlos Support UK
- Endometriosis UK
- Menywod o Leiafrifoedd Ethnig mewn Gofal Iechyd yng Nghymru (EMWWH)
- Fertility Network UK Cymru
- Cyfadran Gofal Iechyd Rhywiol ac Atgenhedlol
- Fibromyalgia Action UK
- Cymorth Ffibromyalgia Cymru
- Cymdeithas Syndromau Hypersymudedd
- Hormonau ac Iechyd
- Rhwydwaith Darparwyr Gofal Iechyd Annibynnol
- Cymdeithas Ryngwladol Anhwylderau Cyn-mislif (IAPMD)
- Anabledd Dysgu Cymru
- Covid Hir Cymru
- LUPUS UK
- Marie Curie Cymru
- Cynghrair Iechyd y Mislif
- Mind Cymru
- Cymdeithas Sglerosis Ymledol Cymru
- Cymdeithas Genedlaethol Awtistiaeth
- Ffederasiwn Cenedlaethol Sefydliadau Merched (NFWI) Cymru
- Plan International UK
- Race Council Cymru
- Race Equality First
- Rare Quality of Life (QoL)
- Coleg Brenhinol yr Obstetregwyr a'r Gynecolegwyr (RCOG)
- Coleg Nyrsio Brenhinol (RCN)
- Coleg Brenhinol y Pediatregwyr ac Iechyd Plant (RCPCH)
- Coleg Brenhinol y Meddygon (RCP)
- Coleg Brenhinol y Seiciatryddion (RCPsych)
- Coleg Brenhinol Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT)
- Coleg Brenhinol Llawfeddygon Caeredin (RCSEd)
- Cymdeithas Genedlaethol Frenhinol Pobl Ddall (RNIB)
- Samariaid Cymru
- Sands
- Rhwydwaith Trawma De Cymru
- Gofal Canser Tenovus
- Tommy’s
- Prosiect Grymuso Menywod Awtistig (AWE)
- Verity PCOS
- Cymdeithas Gymreig Cymorth ME a CFS (WAMES)
- Rhwydwaith Eiriolaeth Menywod (WAN) Cymru
- Women Connect First
- Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod (WEN) Cymru
Ynghyd ag academwyr unigol a thimau ymchwil ym Mhrifysgol Caerdydd, Prifysgol Abertawe, Prifysgol Gorllewin yr Alban, ac Eiriolwyr Cleifion Arbenigol.
Eisiau gwybod mwy?
Os ydych chi'n cynrychioli mudiad elusennol, corff proffesiynol, grŵp o gleifion arbenigol, neu sefydliad academaidd ac eisiau gwybod rhagor am Gynghrair Iechyd Menywod Cymru, gan gynnwys sut i ymuno, cysylltwch â ni.


