Fel sefydliad pobl anabl, mae Triniaeth Deg i Ferched Cymru (FTWW) yn deall ac yn rhannu’r pryderon y mae llawer o bobl anabl a’n cymuned yn eu mynegi am y cynigion diweddar ar gyfer diwygio lles yn y Deyrnas Unedig.

Sefydlwyd FTWW yn 2014 oherwydd y rhwystrau ychwanegol y mae menywod a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni (AFAB) sy’n anabl neu sydd â salwch cronig yn gallu eu hwynebu wrth geisio cael gafael ar ofal iechyd a chymorth yng Nghymru.

Mae themâu cyffredin – fel diffyg gofal arbenigol, oedi hir cyn cael diagnosis, a diffyg data ymchwil am gyflyrau iechyd sy’n cael effaith unigryw neu anghymesur arnom ni – yn aml yn gallu arwain at ddirywiad yn ein hiechyd, gan adael pobl yn methu gweithio / gweithio’n llawn-amser, ac weithiau heb yr adnoddau a’r gefnogaeth sydd eu hangen arnynt.  

Bydd FTWW nawr yn edrych yn ofalus ar bapur gwyrdd ac ymgynghoriad Llywodraeth y DU, yn ogystal â’r Cynllun Gweithredu drafft ar Hawliau Anabledd sydd ar y gweill gan Lywodraeth Cymru, gan gadw mewn cof brofiadau, anghenion a blaenoriaethau menywod a phobl a bennwyd yn fenywod adeg eu geni, sy’n anabl ac sy’n byw â chyflyrau iechyd cyfnewidiol ac anweladwy. Rydym wedi ymrwymo o hyd i gynhyrchu ar y cyd, a byddwn yn gweithio gyda’n haelodau i sicrhau bod eu safbwyntiau, eu profiadau a’u harbenigedd yn cael eu cynrychioli yn ein hymatebion.

Yn y cyfamser, rydyn ni yma i gefnogi ein cymuned gymaint ag y gallwn ni. Os ydych chi’n fenyw neu’n berson a bennwyd yn fenyw adeg eich geni, sy’n byw yng Nghymru a / neu’n derbyn gofal yng Nghymru, a’ch bod yn awyddus i ymuno â’n cymuned a arweinir gan gymheiriaid, gallwch wneud hynny yma: facebook.com/groups/ftww.wales.

Rydyn ni hefyd yn annog pobl i ysgrifennu at eu Haelodau Seneddol a’u Haelodau o’r Senedd i rannu eich pryderon a’r effaith y gallai’r cynigion hyn ei chael arnoch chi / ar eich anwyliaid.

Cadeirydd FTWW

Willow Holloway

cyCymraeg