
Llun: Muslim Doctors Cymru
Roedd Cydlynydd Gwirfoddoli a Chymunedol FTWW, Louise, yn falch iawn o gael cwmni Carina, ein Hyrwyddwr Ffibroidau Gwirfoddol, yn y digwyddiad ymgysylltiad cymunedol Bywydau Iach yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn gynharach y mis hwn, a oedd yn canolbwyntio ar y 'gwasanaethau iechyd, llesiant, sgrinio, imiwneiddio a chymorth' sydd ar gael mewn cymunedau lleol.
Cafodd y digwyddiad ei drefnu ar y cyd rhwng Muslim Doctors Cymru, Amanah Cymru, BBC Cymru Wales a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. Roedd gweithwyr iechyd proffesiynol o wahanol arbenigeddau hefyd yno i ddarparu gwybodaeth iechyd i fenywod a merched ifanc o gefndiroedd ethnig.
Llwyddodd y digwyddiad i dynnu sylw at y llu o sefydliadau sy’n gweithio i wella iechyd a llesiant menywod Du ac Asiaidd ledled Caerdydd a’r Fro, gan roi cyfle gwerthfawr i rwydweithio a meithrin cysylltiadau ar draws iechyd, gofal cymdeithasol, sefydliadau’r trydydd sector, elusennau a grwpiau cymunedol.
Cafwyd trafodaethau panel rhagorol ar y menopos, iechyd y pelfis, y mislif a ffrwythlondeb, ac ymwybyddiaeth o ganser, gan gynnwys sesiynau holi ac ateb gyda’r gynulleidfa. Recordiodd BBC Cymru Wales y sgyrsiau panel (i’w darlledu’n ddiweddarach – rydyn ni’n edrych ymlaen yn eiddgar!). Bu’r rhai oedd yn bresennol yn mwynhau gweithdai hefyd, yn ogystal â 'lle i ferched ifanc'.
Bu Louise a Carina yn arddangos ein gwaith ar stondin FTWW, yn creu cysylltiadau â menywod o’r gymuned, yn ateb cwestiynau ac yn rhannu gwybodaeth ac adnoddau am sut gall pobl gael gafael ar gymorth a chyfrannu at ein gwaith.
Diolch o galon i’r trefnwyr am roi croeso mor gynnes i ni, ac i Carina am ei chefnogaeth a’i heiriolaeth barhaus.