Mae cyfres gweminarau FTWW i aelodau yn parhau, ac ym mis Chwefror cafwyd sesiwn ragarweiniol hirddisgwyliedig ar sut i fod yn bendant. Bydd Kate Sheridan, ymchwilydd o Brifysgol Caergrawnt, yn ymuno â ni ym mis Mawrth i archwilio popeth am dechnoleg iechyd menywod, neu ‘Femtech’.
Pendantrwydd
Fe wnaeth Laura Teare a Steph Scragg, sy’n ffrindiau i FTWW ac sydd â blynyddoedd o arbenigedd proffesiynol ac ymarferol, arwain y cyfranogwyr drwy amrywiaeth o strategaethau ymarferol ar gyfer ymdopi ag apwyntiadau gofal iechyd, rheoli ymatebion emosiynol, a chyfathrebu’n hyderus â chlinigwyr, cyflogwyr, a systemau cymorth ehangach.
Bu’r cyfranogwyr yn canmol y sesiwn am ei 'hawgrymiadau ymarferol ar gyfer sefyllfaoedd go iawn' a digwyddiadau sydd 'wir wedi fy helpu i ddelio â fy nghyflwr a chael gafael ar ofal iechyd'.
I ddod: Technoleg Iechyd Menywod (Femtech) – 10 Mawrth
Mae mwy a mwy o bobl yn defnyddio technoleg ddigidol - apiau, tracwyr, dyfeisiau gwisgadwy - i'w helpu i wneud synnwyr o'u symptomau neu i olrhain eu llesiant, ac nid yw 'iechyd menywod' yn eithriad. Yn wir, mae ‘FemTech’ (fel y cyfeirir yn Saesneg at dechnoleg ar gyfer iechyd menywod) yn ddiwydiant enfawr sy’n tyfu o hyd, ac mae’n amrywio o dracwyr mislif i apiau ffrwythlondeb i lwyfannau menopos, â llawer ohonynt ar gael mewn siopau apiau neu ar wefannau.
Ond beth ydyn ni’n ei wybod am yr adnoddau hyn mewn gwirionedd? Sut maen nhw’n casglu ein data ac yn ei ddefnyddio? Ydyn nhw’n ddibynadwy? Ydyn nhw’n rhoi gwerth am arian? Allan nhw ein helpu ni i ymdopi â’r ddarpariaeth iechyd a gofal sydd ei hangen arnom? Ymunwch ag FTWW a Kate Sheridan, sy’n ymchwilydd ym Mhrifysgol Caergrawnt, i archwilio popeth am dechnoleg iechyd menywod yn y weminar awr o hyd hon ar 10 Mawrth, sy'n benodol ar gyfer Aelodau FTWW.
I weld ein gweminarau - ac i ymuno â digwyddiadau eraill sydd ar y gweill - yr oll sydd ei angen yw bod yn aelod o grŵp Facebook FTWW, felly os nad ydych chi eisoes yn aelod neu os ydych chi’n adnabod rhywun a allai elwa o’n cefnogaeth, gofynnwch am gael ymuno yma - sylwch, rhaid i chi ateb yr holl gwestiynau ymuno a chytuno i gadw at reolau’r grŵp.