Iechyd a llesiant y mislif

Bydd y rhan fwyaf o ferched, menywod a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn cael mislif erbyn y byddant yn 12 oed, gyda rhai ohonynt yn cael problemau mislifol fel poen, gwaedu trwm a hwyliau cyfnewidiol.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am iechyd a llesiant y mislif a'n gwaith ni i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd y mislif.

Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol

Pam mae llesiant y mislif yn bwysig?

  • Yn y DU, bydd y rhan fwyaf o ferched, a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, yn cael y mislif erbyn y byddan nhw'n 12 oed.
  • Mae hyn yn golygu bod 51% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi cael mislifoedd ar ryw adeg neu'i gilydd
  • Proses gorfforol naturiol yw'r mislif, ond ni ddylai mislif normal amharu ar fywyd rhywun
  • Mae nifer fawr o fenywod yn cael problemau mislifol sy'n amharu ar eu llesiant, ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael

Rhai o'r rhesymau pam gallai'r mislif fod yn broblem i fenywod yw:

  • Symptomau corfforol fel poen mislif (dysmenorrhea) a gwaedu misol trwm (menorrhagia), chwyddo, poen yn y cefn a'r coesau, cur pen, cyfog, blinder, anaemia drwy waedu'n drwm neu am amser hir.
  • Hwyliau cyfnewidiol sy'n gysylltiedig ag amrywiadau hormonaidd (syndrom cyn-mislif, a elwir yn aml yn PMS) a symptomau iechyd meddwl gan gynnwys mwy o ymatebion straen ac emosiynau, iselder, gorbryder.
  • Effeithiau ehangach / cymdeithasol fel:
    • mae anhawster cael toiled neu nwyddau mislif pan fo angen yn gallu arwain at deimladau o gywilydd a phryder;
    • teimlo eich bod wedi'ch ynysu neu eisiau cilio oddi wrth bobl eraill;
    • pobl yn gwneud hwyl am ben eich symptomau;
    • bod yn absennol neu'n orbresennol, sef pan fyddwch chi'n mynd i'r ysgol neu'r gweithle ond ddim yn gallu canolbwyntio neu gyflawni cymaint mewn lleoliadau addysg neu gyflogaeth;
    • methu cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau cymdeithasol a hynny'n effeithio ar eich perthynas â phobl eraill.

Mae triniaethau ar gael i helpu i reoli symptomau'r mislif pan fyddant yn mynd yn broblem, ond mae'r math o driniaeth yn dibynnu ar eich symptomau a sut maen nhw'n effeithio ar eich bywyd.

Mae'n bosibl y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn awgrymu eich bod chi'n cadw dyddiadur o'ch symptomau a'r effaith y maent yn ei chael arnoch chi. Bydd hyn hefyd yn gallu eu helpu nhw i benderfynu a oes angen gwneud rhagor o ymchwil i weld a oes cyflyrau sylfaenol yn cyfrannu at eich symptomau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai menywod yn cael symptomau problemus oherwydd PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif), sef math mwy difrifol o PMS, neu gyflwr arall fel  endometriosis ac adenomyosis.

Mae rhagor o wybodaeth am symptomau'r mislif a thriniaethau ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).

Beth rydym ni'n galw amdano?

Ein nod yn gyffredinol yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd iechyd y mislif a goresgyn y tabŵs sy'n ymwneud â'r mislif, fel bod menywod yn chwilio am gymorth yn gynt pan fo angen

Mae prinder dealltwriaeth am yr hyn sy'n 'normal' a beth sydd ddim o ran poen mislif, gwaedu a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl hormonaidd.

Mae llawer o stigma yn gysylltiedig â'r mislif a'u heffaith, sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd iawn deall beth sy'n 'iawn' a phryd mae angen i ni chwilio am gymorth neu gyngor meddygol.

Mae teimlo cywilydd a diffyg gwybodaeth yn gallu arwain at fwy o straen a gorbryder i gleifion, ac oedi cyn diagnosio cyflyrau iechyd cysylltiedig. Gall hyn wedyn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol merched, eu gyrfaoedd, a'u hiechyd a'u llesiant yn ehangach.

Yng Nghymru, mae llawer iawn o ddiffyg ymwybyddiaeth ac addysg am iechyd a llesiant y mislif, felly mae llawer o bobl yn cael trafferth cael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.

  • Mae Llesiant y Mislif bellach wedi'i restru yn y canllawiau i ysgolion gwladol yng Nghymru, ond mae o fewn 'Addysg Cydberthnasoedd a Rhywioldeb', sy'n golygu bod y mislif yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n ymwneud â pherthnasoedd a beichiogrwydd nag iechyd. Mae hyn yn broblem.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Strategaeth 'Urddas y Mislif', a oedd yn canolbwyntio'n wreiddiol ar fynediad at nwyddau'r mislif ond sydd bellach wedi datblygu i gynnwys mynd i'r afael â tabŵs, a mwy o gefnogaeth ar gyfer problemau iechyd y mislif a chyflyrau drwy gydol oes.
  • Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn 'Mislif Fi', sef gwefan sy'n ceisio cychwyn sgyrsiau gyda phobl ifanc am y mislif, sut i'w reoli, ac er mwyn cael cefnogaeth well gan gyfoedion.
  • Er gwaethaf yr uchod, mae'r oedi cyn cael diagnosis o gyflyrau fel endometriosis (sy'n aml yn gysylltiedig â'r mislif a phoen y mislif, o leiaf yn ei gyfnodau cynnar) yn parhau i dyfu yng Nghymru, sef bellach yn 10 mlynedd ar gyfartaledd. Y rheswm am hyn yn rhannol yw diffyg prawf diagnostig sydd ddim yn golygu llawdriniaeth.

Mae angen i ni wneud y canlynol:

  • Cyd-gynhyrchu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer staff ysgolion, fel bod modd trafod iechyd y mislif yn agored, adnabod problemau a chynnig cymorth ac arweiniad.
  • Sicrhau bod hyfforddiant gwell yn cael ei ddarparu i weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn i ni osgoi'r risg o 'normaleiddio' neu ddiystyru materion iechyd y mislif.
  • Buddsoddi mewn ymchwil i gyflyrau iechyd y mislif er mwyn cyflymu'r diagnosis a gwella'r driniaeth
  • Sicrhau bod ysgolion a gweithleoedd yn cyd-ddatblygu ac yn gweithredu polisïau ac arferion ar gyfer iechyd y mislif fel bod disgyblion a gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth well.

Ein hyrwyddwr Molly F

 

Fel menyw ifanc sy'n ymgyrchydd iechyd rwy'n ystyried ei bod yn hanfodol ein bod ni'n cydweithio gymaint â phosibl. Mae FTWW wedi croesawu â breichiau agored grŵp cyfan yr Ymgyrch Caru'r Mislif a ddechreuwyd gan fenywod ifanc yn 2019, gan greu cyfleoedd i gydweithio yng Nghymru – dros gyfiawnder y mislif i bawb – ar draws y cenedlaethau, sy'n hanfodol er mwyn cael newid parhaol.

Ein hyrwyddwr Anna C

 

Anna C, FTWW's champion for Menstrual Wellbeing

"Mae'r gwaith y mae Debbie a'i thîm yn FTWW yn ei wneud ledled Cymru yn gwbl ysbrydoledig. Fel Cymraes yn byw yng ngogledd Cymru mi wnes i droi at FTWW am atebion pan oeddwn i'n ceisio gweithio fy ffordd drwy ein system gofal iechyd pan oeddwn i eisiau ymyrraeth feddygol ar gyfer endometriosis. Gallwn i weld ac uniaethu â'r ymdrech a'r penderfynoldeb oedd gan FTWW, ac sydd ganddynt o hyd, i wella mynediad at ofal iechyd menywod yng Nghymru. Dyna pryd roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud mwy na chefnogi o bell, roeddwn i eisiau codi arian a chyfrannu at grwpiau ffocws.

Rwy'n gwybod o brofiad gymaint y mae angen y gwaith hwn yng Nghymru. A finnau wedi cyd-sefydlu fy elusen fy hun ar gyfer gwella addysg iechyd y mislif, rwy'n wastad yn argymell FTWW fel mudiad sy'n frwd dros helpu i gefnogi'r rhai syd angen mynediad at ofal iechyd menywod."

Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?

Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i godi ymwybyddiaeth a gwella'r cymorth ar gyfer llesiant y mislif. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:

 Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian

  • Creu taflenni dwyieithog Chwalu'r Mythau am y Mislif
  • Darparu hyfforddiant i amrywiaeth o sefydliadau, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ar iechyd y mislif a llesiant, cyflyrau iechyd y mislif, a sut i gyd-gynhyrchu polisïau ac arferion ystyrlon i helpu staff.
  • Cefnogi ein gwirfoddolwyr i gael sylw i'w storïau yn ymgyrch 'balch o'r mislif' Llywodraeth Cymru
  • Arwain ymgyrch yng Nghymru ar sicrhau bod llesiant iechyd y mislif yn ymddangos ar gwricwlwm ysgolion. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau ei fod yn ymddangos yn y canllawiau gorfodol i ysgolion ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb

Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd

Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr

  • Drwy gymryd rhan ym Mwrdd Crwn Urddas y Mislif Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi sicrhau bod iechyd a llesiant y mislif drwy gydol oes yn cael sylw yn Strategaeth Urddas y Mislif, a ail-lansiwyd yn 2023 fel y Cynllun Gweithredu Balch o'r Mislif.
  • Gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cwrs hyfforddi byr SPPINN (Niw yw Poen Mislif Difrifol yn Normal ar gyfer addysgwyr a nyrsys ysgolion i'w helpu i roi cefnogaeth well i ddisgyblion a'u cyfeirio at gymorth
  • Partneru ag academwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Bangor i ddatblygu'r Astudiaeth SPPINN sy'n mynd ymlaen ac sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn deall yn well a gwella'r ffyrdd o addysgu pobl am boen mislif difrifol, a darparu gofal iechyd ar gyfer poen mislif difrifol ledled Cymru

Newyddion a blogiau cysylltiedig

Menstrual Wellbeing Education – Education Bill Amendment

Menstrual Wellbeing Education – Education Bill Amendment

The 29th January saw the second stage of the Curriculum and Assessment (Wales) Bill, with the Senedd’s Children, Young People & Education (CYPE) Committee voting for or against any Amendments brought to the table. Alongside Endometriosis UK, FTWW had called upon...

Menstrual Wellbeing Education in Wales – The Campaign Continues

Menstrual Wellbeing Education in Wales – The Campaign Continues

On December 15th in the Senedd, Members of our Welsh Parliament debated the new Curriculum & Assessment (Wales) Bill. One third of those in attendance spoke out in support of FTWW and Endometriosis UK's calls for mandatory Menstrual Wellbeing Education. It is...

Storïau am iechyd y mislif

Dim canlyniadau

Nid oedd modd canfod y tudalen y gofynnwyd amdani. Ceisiwch fireinio eich chwiliad, neu defnyddiwch y panel llywio uchod i ganfod y neges.

Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall

Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.

Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.

cyCymraeg