Stori Carly
Mae fy stori yn dechrau yn Farnborough, Swydd Hampshire yn Lloegr
Dechreuodd fy symptomau pan ddechreuodd fy mislif pan oeddwn i'n unarddeg oed, ychydig cyn mynd i'r ysgol uwchradd. Roeddwn i'n cael poen ar fwy na hanner y diwrnodau, ar draws gwaelod fy nghefn a fy ochr dde. Roedd fy mislif yn drwm ofnadwy ac roeddwn i'n gorfod cymryd atchwanegiadau haearn. Er eu bod yn drwm, roedden nhw'n gyson o leiaf, am ddwy neu dair blynedd. Yn anffodus, roedd y boen yn gyson ar y rhan fwyaf o'r diwrnodau hefyd.
Cefais ffisiotherapi sawl gwaith ond roedd hyn wedi cynyddu'r boen. Roedd y meddygon a'r therapyddion yn meddwl nad oedd cysylltiad rhwng fy mhoen belfig ag unrhyw beth arall ond gan fod procio'r rhan hon o fy nghorff wedi gwneud y boen yn waeth o lawer, rwyf wedi dod i gredu ers hynny fod hynny'n gysylltiedig ag endometriosis.
Fe wnes i ddechrau mynd at fy meddyg teulu am fy mislif a'r boen pan oeddwn i tua 14 oed, ond fe gymerodd nes oeddwn i'n 20 oed i gael fy atgyfeirio at gynecolegydd, a dim ond am fy mod wedi magu'r dewrder i fynnu hynny.
Ar ôl bron i ddegawd o fynd at fy meddyg teulu am gymorth, a hyd yma doedd neb wedi awgrymu endometriosis.
Es i weld gynecolegydd o'r diwedd – er nid arbenigwr ar endometriosis. Cefais y bilsen atal cenhedlu Microgynon 30 am dri mis cyfan ond doedd dim newid o gwbl yn lefel y boen. Yna, cefais fy atgyfeirio i gael laparosgopi diagnostig. O fy apwyntiad gynecolegol cyntaf hyd at yr laparosgopi, roeddwn i'n aros 9 mis –a cofiwch, dim ond i weld beth sy'n mynd ymlaen y mae laparosgopi diagnostig –nid triniaeth i drin endometriosis YN IAWN oherwydd dim ond ychydig bach o amser sydd gan lawfeddygon i drin llawdriniaethau o'r fath.
Pan gefais y laparosgopi diagnostig, canfuwyd endometriosis yn fy nghoden Douglas (y man rhwng y rectwm a'r wterws). Mae fel arfer yn arwydd o glefyd sylweddol – a hefyd pant fy ofari dde. Cafodd yr holl endo ei abladu gydag anweddu helica (pan fo gwres egni uchel yn cael ei ddefnyddio i droi'r feinwe yn anwedd). Nid dyma'r dechneg lawfeddygol i'w defnyddio ar gyfer ardaloedd eang o endometriosis. Dim ond ar gyfer ardaloedd bach iawn fel yr ofari y dylid ei defnyddio, oherwydd byddai'n niweidio'r ofari i ddefnyddio dulliau eraill. Mae abladu'n ddiwerth – ac yn niweidiol – ar gyfer achosion eang fel fy achos i.
Dylwn i fod wedi cael torri'r clefyd allan, sef y driniaeth orau a mwyaf effeithiol y dylid ei defnyddio yn 99% o achosion o endo. Ond laparosgoi diagnostig oedd hyn, gyda rhywun nad oedd yn arbenigwr... Mae abladiad eang (neu losgiad) yn llawer cyflymach na thoriad gwirioneddol – mae'n golygu bod cleifion yn gadael yr ysbyty'n gyflym iawn (er bod hyn yn golygu fel arfer eu bod yn dychwelyd eto flwyddyn yn ddiweddarach). Ond wyddwn i mo hyn ar y pryd. Wyddwn i ddim fod canolfannau arbenigol ar gael yn Lloegr yn echdorri, a bod gynecolegwyr 'cyffredin' yn abladu neu'n llosgi clefyd, sy'n gwneud pethau'n llawer iawn gwaeth ac yn golygu bod angen llawdriniaeth eto flwyddyn ar ôl blwyddyn.
Yn amlwg, fe wnaeth fy mhoen a fy symptomau barhau ar ôl y llawdriniaeth.
Ar ôl hyn symudais i Abertawe. Gwelais feddyg teulu am fy niagnosis o endo, y driniaeth a'r problemau parhaus ond fe wnaeth o wrthod credu canfyddiadau fy llawdriniaeth yn Lloegr. Gan fod yr endo wedi cael ei drin roedd yn meddwl mai IBS oedd gen i erbyn hyn. Roedd y feddyginiaeth a roddodd i mi ar gyfer hyn wedi gwneud fy symptomau endo yn waeth o lawer. Mebeverine oedd hyn, ac mi gymerais hynny am ryw dri mis nes rhoi'r gorau iddo am ei fod yn gwneud pethau'n waeth i mi.
Es i weld meddyg arall yn yr un feddygfa (dydych chi ddim fel arfer yn dewis pa feddyg i'w weld yn fy meddygfa i) a ddywedodd wrthyf mai clefyd a drosglwyddir yn rhywiol oedd gen i am fy mod yn cael rhyw (roeddwn i wedi bod gyda fy mhartner ers tair blynedd, rydym bellach wedi dyweddïo). Dywedwyd wrthyf i osgoi cael rhyw fel nad oedd yr endometriosis yn parhau.
A minnau'n anobeithio, gwelais feddyg arall yn yr un feddygfa. Fe wnaeth y meddyg yma fy atgyfeirio at gynecolegydd cyffredin arall, nid arbenigwr mewn canolfan BSGE. Arhosais am 9 mis am apwyntiad, mewn poen ddifrifol.
Pan welais y meddyg ymgynghorol yn y diwedd, fe wnaeth i mi gymryd Zoladex, sef cyffur hormonaidd pwerus iawn. Cefais dair bigiad o fis o ddosau. Aeth pethau'n waeth. Roeddwn i'n cael pyliau poeth ofnadwy ac yn llewygu am fy mod yn mynd mor dwym wrth weithio mewn bwyty bwyd cyflym prysur iawn. Oherwydd poen ofnadwy ar hyd fy stumog, gwaelod fy nghefn ac i lawr fy nghoesau, nid oeddwn yn gallu cerdded arnynt ac roedd hyn yn rhywle newydd i fod yn brifo i mi. Dechreuais waedu o fy mhen ôl hefyd. Mae'r holl symptomau hyn wedi aros gyda fi ers cael y driniaeth hon ddwy flynedd yn ôl.
Pan ddywedais wrth y meddyg ymgynghorol nad oedd y Zoladex wedi gweithio, fe wnaeth fy rhyddhau gan ddweud nad endo oedd yn bod arnaf os nad oedd fy symptomau wedi cilio tra oeddwn yn ei gymryd. Ers hynny, rwyf wedi cael gwybod nad oes modd dibynnu o gwbl ar Zoladex fel dull o ddiagnosio endo, er bod llawer o feddygon yn ei ddefnyddio er mwyn gwneud hynny. Mae nifer ddirifedi o fenywod yn parhau i gael symptomau – neu fwy o broblemau – wrth ei gymryd, ac yna'n cael gwybod yn eu llawdriniaeth nesaf ei bod yn WIR fod endo arnynt. Dywedodd y gynecolegydd yma wrthyf nad endo oedd gen ac y byddai'n fy atgyfeirio at arbenigwr ar y stumog. Wnaeth o ddim esbonio pam, ac fel y digwyddodd pethau, chefais i mo fy atgyfeirio chwaith.
Arhosais am flwyddyn mewn poen barhaus, a chael gwybod gan fy meddyg teulu fy mod wedi cael fy rhyddhau heb unrhyw archwiliad dilynol, dim cynllun triniaeth, dim atgyfeiriad, dim gwybodaeth – dim byd.
Yna, fe wnaeth fy meddyg teulu fy atgyfeirio i gael ail farn –ond yn yr un ysbyty gyda gynecolegydd cyffredin arall. Ar ôl aros y hir, cefais ei weld a dywedodd y byddai angen i mi gael llawdriniaeth arall i weld beth oedd yn mynd ymlaen. Dywedodd fy mod yn achos brys, ond rwy'n dal i aros. Rwyf wedi cael dau apwyntiad cyn-llawdriniaeth yn y cyfnod hwn.
Byddwn i'n hoffi mynd at ganolfan arbenigol BSGE i gael torri fy endometriosis allan gan fy mod wedi dysgu mai dyma'r ffordd orau o drin y clefyd, ac o'i iacháu o bosibl. Ond gan fy mod yn byw yng Nghymru, lle mae un ganolfan yn unig, sef yng Nghaerdydd, rwy'n gwybod ei bod yn annhebygol y caf fy ngweld yno. Dydy'r meddygon teulu fan hyn ddim yn dweud wrth gleifion am y canolfannau, i ddechrau am nad ydy'r rhan fwyaf ohonynt yn gwybod amdanynt, neu os ydy nhw, dydyn nhw ddim yn cael anfon cleifion yno oni bai eu bod yn byw yn yr ardal. Yng Nghymru, mae'r byrddau iechyd yn dweud bod rhaid i chi gael eich trin yn yr ysbytai yn eich ardal chi, ac rwy'n byw yn Abertawe, nid yng Nghaerdydd. Hyd yn oed petawn i'n cael defnyddio'r ganolfan, gan mai dyma'r unig un yng Nghymru (a dydy menywod ddim fel arfer yn cael defnyddio'r 45 o ganolfannau yn Lloegr) byddai'r rhestr aros yn hir iawn, iawn – yn ychwanegol at y blynyddoedd o aros rwyf wedi'i ddioddef yn barod.
Dyma fy symptomau ar hyn o bryd:
- poen ar y ddwy ochr i fy stumog a fy nghefn.
- poen i lawr y ddwy goes
- blinder a gorflinder hyd yn oed ar ôl gwneud tasgau bach
- gwaedu o fy mhen ôl (symptom o endo ar y coluddion / rectwm)
- pyliau o niwl ymenyddol, sef pan na fyddaf yn gallu meddwl drostof fy hun neu pan rwy'n anghofio beth rwy'n ei wneud oherwydd fy mod mewn cymaint o boen. Roedd hyn wedi gwneud trydedd flwyddyn fy ngradd yn anodd iawn.
Weithiau mae pethau mor ddrwg fel fod fy mhartner yn gorfod gofalu amdanaf. Rwyf wedi gorfod gadael fy swydd.
Dim ond pedair ar hugain oed ydw o ac rwy'n teimlo fy mod wedi treulio'r rhan fwyaf o fy oes yn ddioddef, heb wneud yn gwrando arnaf nac yn fy nhrin yn iawn. Rwyf i fod i briodi a byddwn i'n hoffi cael plant ond os bydd endo yn cael parhau mor hir ag i mi bydd yn achosi poen barhaus ac annioddefol a hefyd yn gallu achosi anffrwythlondeb. Bydd angen i mi gael triniaeth ffrwythlondeb yn ogystal â'r holl broblemau y mae llawdriniaethau / triniaeth aneffeithiol wedi'u hachosi i mi.
