Menopos
Mae'r menopos yn effeithio ryw bryd ym mywyd pob menyw neu berson a gofrestrwyd yn fenyw, ac mae'n gallu gwanhau rhywun yn emosiynol, corfforol a seicolegol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am y menopos a'n gwaith i wella mynediad at ofal iechyd ar gyfer y mater iechyd hwn.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Beth yw'r menopos?
- Mae'r menopos yn effeithio ar bob menyw neu berson a gofrestrwyd yn fenyw ar adeg eu geni.
- Fel arfer, y menopos yw'r adeg pan fydd y mislif wedi gorffen ers 12 mis yn olynol.
- Yn fwyaf cyffredin yn y DU yw ei brofi tua 51 oed, ond gall effeithio ar bobl unrhyw oed o ganlyniad i gyflyrau iechyd eraill.
- Y perimenopos yw'r adeg cyn y menopos llawn, pan fo'r hormonau'n dechrau amrywio a'r mislif yn dechrau newid. Gall y cyfnod hwn amrywio o ran hyd, o fisoedd i flynyddoedd.
Bydd menywod tua 45-55 oed yn profi gostyngiad naturiol yn eu hormonau atgenhedlu, gan arwain yn y pen draw at adeg pan ddaw eu mislif i ben, a gellir disgwyl rhai symptomau'n gysylltiedig â hynny.
Rhai o symptomau mwyaf cyffredin y menopos yw gorbryder ac iselder, pyliau poeth, chwysu yn y nos, magu pwysau, acne a phroblemau gyda'r croen, blinder a phroblemau cysgu, libido isel, colli gwallt, croen sych a sychder yn y wain – ond gallai llawer o symptomau eraill ddigwydd hefyd.
Nid yw'n normal i symptomau'r menopos darfu'n fawr neu beri gofid, ac ni ddylid edrych arnynt fel pethau i'w dioddef. Os bydd symptomau'n dechrau eich poeni neu effeithio ar eich bywyd bob dydd, mae'n bryd gofyn am gyngor meddygol.
Mae'n werth nodi nad yw prawf gwaed sy'n gallu diagnosio'r menopos yn cael ei argymell i'r rhan fwyaf o fenywod o oedran cyfartalog y menopos oherwydd bydd hormonau cyfredol y corff yn amrywio lawer yn ystod cyfnod y peri-menopos pan nad yw'r mislif wedi gorffen yn llwyr eto.
Fel arfer, gellir defnyddio HRT (therapi amnewid hormonau) i drin symptomau'r menopos. Gan ddibynnu ar amgylchiadau'r unigolyn, anghenion meddygol a dewisiadau, gallai'r opsiynau gynnwys patsh estrogen, chwistrell, jel neu fewnblaniad, coil Mirena, neu dabledi progesteron.
Ar hyn o bryd, ni fydd amnewid hormonaidd testosteron yn cael ei gynnig oni bai fod menyw yn dweud bod ganddi lefel isel o libido (awydd rhyw) ond mae astudiaethau'n cael eu cynnal i weld a allai testosteron helpu gyda symptomau eraill hefyd, fel diffyg egni a hwyliau isel.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau'r menopos ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod cyffredinol yw cynyddu ymwybyddiaeth o arwyddion a symptomau'r menopos a sicrhau bod y rhai sy'n ei brofi yn gallu cael mynediad at y cymorth a'r gofal iechyd angenrheidiol yng Nghymru.
Bydd y menopos yn effeithio ar bob menyw neu berson a gofrestrwyd yn fenyw ar adeg ei eni. I rai ohonynt, gall yr effeithiau eu gwanhau'n gorfforol, emosiynol a seicolegol. Mae aelodau FTWW (a sawl un arall) yn dweud eu bod yn cael problemau cysgu; maent yn aml yn profi tarfu ar gwsg gan effeithio ar eu llesiant yn ystod y dydd wedyn. Yna, bydd hyn yn effeithio ar eu galluoedd gwybyddol (a elwir yn 'ymennydd niwlog'), fel ei bod yn fwy anodd gweithredu a chyflawni tasgau cyffredin yn ystod y dydd, fel gwaith, gofalu am y teulu neu'r cartref.
Mae'r menopos yn digwydd yn fwyaf cyffredin rhwng 45 a 55 oed, ond efallai fod sawl rheswm pam fyddai menywod iau yn profi'r menopos (fel llawdriniaeth i dynnu eu croth (wterws) a'r ofarïau, triniaethau meddygol i atal yr ofarïau rhag gweithio, neu anghydbwysedd hormonaidd sy'n achosi menopos cynnar).
Yn y rhan fwyaf o achosion, gall symptomau'r menopos gael eu lleihau drwy amnewid hormonau (estrogen, progesteron a thestosteron) os yw'r person yn dewis, ond mae newidiadau i ffordd o fyw hefyd yn gallu cefnogi llesiant, fel deiet, ymarfer corff, therapïau siarad fel CBT (therapi ymddygiadol gwybyddol).
Felly, rydym ni'n galw am y canlynol:
- Mwy o ymwybyddiaeth o'r menopos ymysg y cyhoedd, cleifion a darparwyr gofal iechyd
- Mwy o ymchwil i'r menopos
- Cymorth gwell a thecach mewn gofal sylfaenol (Meddygaeth Deulu)
- Mynediad gwell at wasanaethau arbenigol ar gyfer y menopos ledled Cymru
Yng Nghymru, mae llawer iawn o ddiffyg ymwybyddiaeth ac addysg am y menopos, felly mae llawer o bobl yn cael trafferth cael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.
- Nid yw gweithwyr gofal iechyd proffesiynol â'r lefel ddigonol o addysg na hyfforddiant am y menopos.
- Er bod enwogion yn codi ymwybyddiaeth, rydym ni'n dal i glywed gan ein haelodau nad ydynt yn cael y gofal angenrheidiol gan eu meddyg teulu. Mae rhai o'n haelodau wedi dweud iddynt fynd at eu meddyg teulu fwy na 10 gwaith cyn iddynt gael y lefel angenrheidiol o gefnogaeth. Mae llawer yn dweud eu bod wedi gorfod gwneud gwaith ymchwil eu hunain i'w helpu i ddeall, olrhain, ac adrodd eu symptomau a beth allai fod angen i'w helpu.
- Yn y rhan fwyaf o achosion, dylai menywod gael cynnig HRT gan eu meddyg fel rhan o drafodaethau fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth, ond yn rhy aml rydym yn clywed nad yw hyn yn digwydd. Mae llawer o fenywod yn dweud nad oes neb wedi cynnig HRT iddynt neu eu bod wedi cael eu gwrthod. Yn anffodus, mae llawer wedi dweud eu bod yn parhau i gael trafferth gyda'u symptomau a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed.
- Mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod 1 ymhob 10 o fenywod yn gadael eu swyddi, yn lleihau eu horiau ac yn cael eu hanwybyddu pan fo cyfle yn eu gyrfa. Mae hyn yn golygu cost sylweddol i'r economi ac i'r menywod eu hunain. Yn ddelfrydol, dylai pob gweithle a diwydiant ddarparu ymwybyddiaeth o'r menopos a chymorth i'w gweithwyr benywaidd er mwyn iddynt allu parhau â'u gyrfaoedd.
- 'Mae diweithdra oherwydd symptomau'r menopos yn arwain at effaith economaidd o ryw £1.5 biliwn y flwyddyn, gyda thua 60,000 o fenywod yn y DU allan o waith oherwydd symptomau'r menopos' Economeg iechyd menywod: buddsoddi yn y 51 y cant | Conffederasiwn y GIG
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- Sicrhau bod gweithwyr gofal iechyd proffesiynol yng Nghymru yn cael hyfforddiant ar y menopos
- Sicrhau bod y Menopos yn cael blaenoriaeth wrth wella ansawdd mewn gofal sylfaenol
- Galw am arweinydd y menopos ymhob meddygfa a chlinig arbenigol ymhob bwrdd iechyd.
- Annog gwell addysg ac ymwybyddiaeth o'r menopos a HRT mewn fferyllfeydd
- Codi ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a chleifion o symptomau'r menopos, a'r dewis o driniaethau, gan gynnwys HRT
- Galw am HRT o bob math o fod ar gael yn fwy eang, gan gynnwys y dewis o fod yn gallu prynu HRT dros y cownter os dyma fyddai orau gan y claf
- Annog mwy o fuddsoddiad mewn ymchwil i'r menopos a HRT
- Galw am ofyniad i sefydliadau yng Nghymru sy'n cyflogi pobl i ddatblygu polisïau a dilyn arferion da wrth gefnogi gweithwyr sy'n mynd drwy'r menopos.
Ein hyrwyddwr Lisa N

"Mae 1 ymhob 10 o fenywod yn gadael eu gyrfaoedd heb gael llawer o gymorth pan fyddan nhw'n cael arwyddion a symptomau nodweddiadol y menopos. Mae llawer o fenywod heb wybod eu bod yn profi'r menopos oherwydd na chafodd dy mater ei drafod lawer yn yr ysgol, yn y gwaith na gartref. Mae llawer o fenywod yn meddwl mai cyflwr pobl hŷn ydy o, a dim ond "pyliau poeth".
Wrth i ni gasglu mwy o wybodaeth am effeithiau'r menopos mae angen i ni fod yn gallu gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth am sut rydym ni'n cael ein trin yn feddwl er mwyn sicrhau bod iechyd menywod yn cael ei flaenoriaethu nawr a phan fyddan nhw'n hŷn.
Fel menyw sy'n mynd drwy'r cyfnod hwn o newid hormonau ni chefais lawer o gefnogaeth gan y GIG a bu'n rhaid i mi dalu am ofal preifat. Rwyf eisiau sicrhau bod pobl yn gwrando ar y rhai sy'n profi'r menopos a'u bod yn gallu cael y gofal angenrheidiol drwy'r system gofal iechyd yng Nghymru."
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni wedi cynnal ymgyrchoedd helaeth i wella bywydau'r rhai sy'n profi'r menopos. Dyma amlinelliad o rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Darparu hyfforddiant i gyflogwyr ar y menopos yn y gwaith, ymwybyddiaeth a chymorth
- Creu taflenni dwyieithog Chwalu'r Mythau
- Ein hymgyrch #Nidpyliaupoethynunig! #Notjusthotflushes! a gafodd sylw ar y newyddion cenedlaethol yng Nghymru
- Rhoi cyflwyniad yng nghynhadledd Rhwydwaith Menopos Cymru a chynhadledd Policy Insight
- Gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru a'r Menopause Charity i gyd-gynhyrchu pedwar Llyfryn Hawdd eu Deall ar y Menopos.
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Cymryd rhan yn Grŵp Gorchwyl a Gorffen Cymru gyfan ar y Menopos, a'r argymhellion
- Cyfrannu at Ddatganiad Ansawdd Iechyd Menywod Llywodraeth Cymru, sy'n gosod disgwyliadua o ran gwasanaethau yng Nghymru
- Cyd-greu'r Bennod ar y Menopos yn adroddiad Cynghrair Iechyd Menywod Cymru i Lywodraeth Cymru
- Sicrhau bod y menopos yn cael ei gynnwys yng Nghynllun Iechyd Menywod 10 mlynedd GIG Cymru
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Cyfrannu at y gwaith o ddatblygu Safon Sefydliad y Safonau Prydeinig (BSI) ar y Mislif, Iechyd y Mislif, y Menopos ar gyfer cyflogwyr
- Rhoi ein henwau ar Faniffesto Menopos y DU, a'i lansiad yn Nhŷ'r Cyffredin
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Mis Ymwybyddiaeth o’r Menopos: Grymuso Sgyrsiau a Chefnogaeth
October is menopause awareness month and – as one of FTWW’s key campaign areas – we have been very busy attending and hosting events and shining a spotlight on life with menopause. We were delighted to spend World Menopause Day with our friends from Cysters at their fantastic ‘Marginalised and Menopausal’ event in Cardiff. We also hosted a webinar for FTWW members, ‘Managing Menopause Symptoms with CBT’, led by FTWW Volunteer Menopause Champion and Principal Clinical Psychologist, Dr Dawn Owen DClinPsy. Fellow FTWW Volunteer Menopause Champion, Lisa Nicholls, was also interviewed by BBC Radio Wales’ Jason Mohammed…
Deiseb Absenoldeb Mislif: Ein Barn
As part of BBC Radio Wales’ coverage of the petition to UK Parliament calling for statutory menstrual leave for people with endometriosis and adenomyosis, FTWW Engagement Coordinator, Dee, spoke to BBC Radio Wales about the importance of ensuring that disabled and chronically ill women and people registered female at birth – and their employers – are aware of existing legislation that can protect their employment rights and help them thrive in the workplace.
Ydych chi'm cymryd HRT ac yn dal i brofi symptomau menopos?
Rydym wrthi’n cynnal prosiect i ddatblygu dull i fesur y costau sy'n gysylltiedig â symptomau'r menopos. Byddwn ni’n defnyddio canfyddiadau’r prosiect yn rhan o dreial ESTEEM, sy'n edrych ar y defnydd o destosteron pan gaiff ei ychwanegu at therapi amnewid hormonau (HRT).
Storïau am y Menopos
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar y menopos
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Cyflwyno'r Achos dros Well Wasanaethau ar gyfer y Menopos yng Nghymru
Adroddiad gan FTWW
Chwalu'r Mythau am y Menopos
Llyfryn gan FTWW
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru
Gwefan BMS (Cymdeithas Menopos Prydain)
Mae'r wefan hon yn rhoi gwybodaeth fanwl am y menopos
Canfod arbenigwr ar y menopos
Gweld map rhyngweithiol i'ch helpu i ganfod arbenigwyr ar y menopos yn eich ardal chi
The Daisy Network
Gwybodaeth a chymorth i fenywod y mae annigonolrwydd ofarïaidd cynamserol yn effeithio arnynt (sy'n achosi menopos cynnar)


