Eiriolaeth a Chefnogaeth

Mae'r adran hon o'n gwefan yn cynnwys gwybodaeth ac adnoddau i helpu'r rhai sy'n ymweld â ni i eiriol (siarad) drostynt eu hunain ynglŷn â'u hiechyd a'u llesiant. Mae'n cynnwys geiriau gan aelodau FTWW a hefyd yn cynnig cyngor i bobl a allai fod yn byw neu'n gweithio gyda'r rhai sydd â chyflyrau iechyd hirdymor ynglŷn â'r ffordd orau o'u cefnogi.

Mae llawer o fenywod, merched a phobl a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor heb lawer o hyder i chwilio am gymorth a chefnogaeth gan bobl eraill. Gall fod yn heriol siarad am symptomau a materion cysylltiedig, a gallant ennyn teimladau cryfion. Mae rhai o'r cyflyrau'n 'anweledig', sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd i bobl eraill deall yr effaith y maent yn ei chael.

Drwy sgwrsio'n barhaus â'n haelodau, cynnal arolygon a grwpiau ffocws, gallwn gael gwybodaeth a chasglu profiadau ein cymuned, i'n helpu ni ac eraill i ddeall y gwahanol heriau sy'n bodoli wrth chwilio am gymorth a chefnogaeth. Darllenwch adroddiad manwl o'r hyn y mae ein cymuned wedi'i ddweud wrthym am eu profiadau yma (saesneg yn unig).

Drwy rannu rhai o'u profiadau a'u barn yma, gobeithio y gallwn roi awgrymiadau defnyddiol a syniadau er mwyn i chi allu eiriol drostoch eich hun neu gefnogi rhywun arall gyda'i faterion iechyd.

Sut i "ddweud eich dweud" ac eiriol drostoch eich hun ynglŷn â materion iechyd

Mae cyfle i siarad gyda rhywun am eich materion iechyd a sut rydych chi'n teimlo yn gallu bod yn brofiad cadarnhaol, ac mae hefyd yn gallu eich helpu i gael y gofal iechyd angenrheidiol.

Mae FTWW wrthi'n gyd-gynhyrchu Pecyn Hunan-eiriolaeth gyda'n cymuned, a bydd ar gael yma cyn bo hir. 

Yn y cyfamser, beth am gael awgrymiadau a syniadau gan aelodau o'n cymuned i'ch helpu chi i eiriol drosoch eich hun. 

Cefnogi rhywun i drafod ac ymdopi â'u materion iechyd

Pan fydd aelod o'ch teulu, claf, cydweithiwr neu ffrind yn cael trafferth gyda materion iechyd, gall eich cefnogaeth chi gael effaith gadarnhaol ar eu llesiant.

Gyda chymorth ein cymuned, rydym ni wedi cyfuno syniadau, awgrymiadau a chynghorion i helpu pobl eraill i fod yn gymheiriaid gwell pan fo angen cefnogi pobl gyda'u hiechyd a'u llesiant. 

Mae'r wybodaeth hon ar gyfer ffrindiau, aelodau o'r teulu a gweithwyr proffesiynol.

 

Deall Anabledd

Yng Nghymru, amcangyfrifir bod tua 26% o'r boblogaeth yn anabl, ond nid yw llawer o'r rheini'n gwybod eu bod yn gallu eu galw eu hunain yn anabl.

Rydym ni'n dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd, sy'n golygu mai rhwystrau amgylcheddol, sefydliadol ac agweddol sy'n gwneud pobl yn anabl ac yn eu hatal rhag cymryd rhan mewn cymdeithas, nid y cyflyrau meddwl neu'r namau o reidrwydd.

cyCymraeg