Iechyd a llesiant y mislif
Bydd y rhan fwyaf o ferched, menywod a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni yn cael mislif erbyn y byddant yn 12 oed, gyda rhai ohonynt yn cael problemau mislifol fel poen, gwaedu trwm a hwyliau cyfnewidiol.
Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am iechyd a llesiant y mislif a'n gwaith ni i godi ymwybyddiaeth am faterion iechyd y mislif.
Mae'r wybodaeth ganlynol yn seiliedig ar y profiadau bywyd a'r blaenoriaethau y mae ein cymuned wedi sôn amdanynt wrthym. Os ydych chi eisiau cyngor iechyd/meddygol, cysylltwch â meddyg teulu neu weithiwr meddygol proffesiynol. Darllenwch yr ymwadiad meddygol
Pam mae llesiant y mislif yn bwysig?
- Yn y DU, bydd y rhan fwyaf o ferched, a'r rhai a gofrestrwyd yn fenywod ar adeg eu geni, yn cael y mislif erbyn y byddan nhw'n 12 oed.
- Mae hyn yn golygu bod 51% o'r boblogaeth yng Nghymru wedi cael mislifoedd ar ryw adeg neu'i gilydd
- Proses gorfforol naturiol yw'r mislif, ond ni ddylai mislif normal amharu ar fywyd rhywun
- Mae nifer fawr o fenywod yn cael problemau mislifol sy'n amharu ar eu llesiant, ond mae cymorth a chefnogaeth ar gael
Rhai o'r rhesymau pam gallai'r mislif fod yn broblem i fenywod yw:
- Symptomau corfforol fel poen mislif (dysmenorrhea) a gwaedu misol trwm (menorrhagia), chwyddo, poen yn y cefn a'r coesau, cur pen, cyfog, blinder, anaemia drwy waedu'n drwm neu am amser hir.
- Hwyliau cyfnewidiol sy'n gysylltiedig ag amrywiadau hormonaidd (syndrom cyn-mislif, a elwir yn aml yn PMS) a symptomau iechyd meddwl gan gynnwys mwy o ymatebion straen ac emosiynau, iselder, gorbryder.
- Effeithiau ehangach / cymdeithasol fel:
- mae anhawster cael toiled neu nwyddau mislif pan fo angen yn gallu arwain at deimladau o gywilydd a phryder;
- teimlo eich bod wedi'ch ynysu neu eisiau cilio oddi wrth bobl eraill;
- pobl yn gwneud hwyl am ben eich symptomau;
- bod yn absennol neu'n orbresennol, sef pan fyddwch chi'n mynd i'r ysgol neu'r gweithle ond ddim yn gallu canolbwyntio neu gyflawni cymaint mewn lleoliadau addysg neu gyflogaeth;
- methu cymryd rhan lawn mewn gweithgareddau cymdeithasol a hynny'n effeithio ar eich perthynas â phobl eraill.
Mae triniaethau ar gael i helpu i reoli symptomau'r mislif pan fyddant yn mynd yn broblem, ond mae'r math o driniaeth yn dibynnu ar eich symptomau a sut maen nhw'n effeithio ar eich bywyd.
Mae'n bosibl y bydd gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn awgrymu eich bod chi'n cadw dyddiadur o'ch symptomau a'r effaith y maent yn ei chael arnoch chi. Bydd hyn hefyd yn gallu eu helpu nhw i benderfynu a oes angen gwneud rhagor o ymchwil i weld a oes cyflyrau sylfaenol yn cyfrannu at eich symptomau. Er enghraifft, efallai y bydd rhai menywod yn cael symptomau problemus oherwydd PMDD (Anhwylder Disfforig Cyn Mislif), sef math mwy difrifol o PMS, neu gyflwr arall fel endometriosis ac adenomyosis.
Mae rhagor o wybodaeth am symptomau'r mislif a thriniaethau ar gael ar wefan GIG Cymru yma (saesneg yn unig).
Beth rydym ni'n galw amdano?
Ein nod yn gyffredinol yw codi ymwybyddiaeth am bwysigrwydd iechyd y mislif a goresgyn y tabŵs sy'n ymwneud â'r mislif, fel bod menywod yn chwilio am gymorth yn gynt pan fo angen
Mae prinder dealltwriaeth am yr hyn sy'n 'normal' a beth sydd ddim o ran poen mislif, gwaedu a materion yn ymwneud ag iechyd meddwl hormonaidd.
Mae llawer o stigma yn gysylltiedig â'r mislif a'u heffaith, sy'n gallu ei gwneud hi'n anodd iawn deall beth sy'n 'iawn' a phryd mae angen i ni chwilio am gymorth neu gyngor meddygol.
Mae teimlo cywilydd a diffyg gwybodaeth yn gallu arwain at fwy o straen a gorbryder i gleifion, ac oedi cyn diagnosio cyflyrau iechyd cysylltiedig. Gall hyn wedyn effeithio ar gyrhaeddiad addysgol merched, eu gyrfaoedd, a'u hiechyd a'u llesiant yn ehangach.
Yng Nghymru, mae llawer iawn o ddiffyg ymwybyddiaeth ac addysg am iechyd a llesiant y mislif, felly mae llawer o bobl yn cael trafferth cael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.
- Mae Llesiant y Mislif bellach wedi'i restru yn y canllawiau i ysgolion gwladol yng Nghymru, ond mae o fewn 'Addysg Cydberthnasoedd a Rhywioldeb', sy'n golygu bod y mislif yn cael ei ystyried yn rhywbeth sy'n ymwneud â pherthnasoedd a beichiogrwydd nag iechyd. Mae hyn yn broblem.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi datblygu Strategaeth 'Urddas y Mislif', a oedd yn canolbwyntio'n wreiddiol ar fynediad at nwyddau'r mislif ond sydd bellach wedi datblygu i gynnwys mynd i'r afael â tabŵs, a mwy o gefnogaeth ar gyfer problemau iechyd y mislif a chyflyrau drwy gydol oes.
- Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn 'Mislif Fi', sef gwefan sy'n ceisio cychwyn sgyrsiau gyda phobl ifanc am y mislif, sut i'w reoli, ac er mwyn cael cefnogaeth well gan gyfoedion.
- Er gwaethaf yr uchod, mae'r oedi cyn cael diagnosis o gyflyrau fel endometriosis (sy'n aml yn gysylltiedig â'r mislif a phoen y mislif, o leiaf yn ei gyfnodau cynnar) yn parhau i dyfu yng Nghymru, sef bellach yn 10 mlynedd ar gyfartaledd. Y rheswm am hyn yn rhannol yw diffyg prawf diagnostig sydd ddim yn golygu llawdriniaeth.
Mae angen i ni wneud y canlynol:
- Cyd-gynhyrchu adnoddau a hyfforddiant ar gyfer staff ysgolion, fel bod modd trafod iechyd y mislif yn agored, adnabod problemau a chynnig cymorth ac arweiniad.
- Sicrhau bod hyfforddiant gwell yn cael ei ddarparu i weithwyr iechyd proffesiynol er mwyn i ni osgoi'r risg o 'normaleiddio' neu ddiystyru materion iechyd y mislif.
- Buddsoddi mewn ymchwil i gyflyrau iechyd y mislif er mwyn cyflymu'r diagnosis a gwella'r driniaeth
- Sicrhau bod ysgolion a gweithleoedd yn cyd-ddatblygu ac yn gweithredu polisïau ac arferion ar gyfer iechyd y mislif fel bod disgyblion a gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael cefnogaeth well.
Ein hyrwyddwr Molly F

Fel menyw ifanc sy'n ymgyrchydd iechyd rwy'n ystyried ei bod yn hanfodol ein bod ni'n cydweithio gymaint â phosibl. Mae FTWW wedi croesawu â breichiau agored grŵp cyfan yr Ymgyrch Caru'r Mislif a ddechreuwyd gan fenywod ifanc yn 2019, gan greu cyfleoedd i gydweithio yng Nghymru – dros gyfiawnder y mislif i bawb – ar draws y cenedlaethau, sy'n hanfodol er mwyn cael newid parhaol.
Ein hyrwyddwr Anna C

"Mae'r gwaith y mae Debbie a'i thîm yn FTWW yn ei wneud ledled Cymru yn gwbl ysbrydoledig. Fel Cymraes yn byw yng ngogledd Cymru mi wnes i droi at FTWW am atebion pan oeddwn i'n ceisio gweithio fy ffordd drwy ein system gofal iechyd pan oeddwn i eisiau ymyrraeth feddygol ar gyfer endometriosis. Gallwn i weld ac uniaethu â'r ymdrech a'r penderfynoldeb oedd gan FTWW, ac sydd ganddynt o hyd, i wella mynediad at ofal iechyd menywod yng Nghymru. Dyna pryd roeddwn i'n gwybod fy mod i eisiau gwneud mwy na chefnogi o bell, roeddwn i eisiau codi arian a chyfrannu at grwpiau ffocws.
Rwy'n gwybod o brofiad gymaint y mae angen y gwaith hwn yng Nghymru. A finnau wedi cyd-sefydlu fy elusen fy hun ar gyfer gwella addysg iechyd y mislif, rwy'n wastad yn argymell FTWW fel mudiad sy'n frwd dros helpu i gefnogi'r rhai syd angen mynediad at ofal iechyd menywod."
Beth rydym ni wedi llwyddo i'w wneud?
Rydym ni'n gwneud gweithgareddau ymgyrchu helaeth i godi ymwybyddiaeth a gwella'r cymorth ar gyfer llesiant y mislif. Dyma rai o'n llwyddiannau isod:
Rydym ni'n codi ymwybyddiaeth drwy ddigwyddiadau, y cyfryngau, hyfforddiant a chodi arian
- Creu taflenni dwyieithog Chwalu'r Mythau am y Mislif
- Darparu hyfforddiant i amrywiaeth o sefydliadau, yn y sector cyhoeddus a'r sector preifat, ar iechyd y mislif a llesiant, cyflyrau iechyd y mislif, a sut i gyd-gynhyrchu polisïau ac arferion ystyrlon i helpu staff.
- Cefnogi ein gwirfoddolwyr i gael sylw i'w storïau yn ymgyrch 'balch o'r mislif' Llywodraeth Cymru
- Arwain ymgyrch yng Nghymru ar sicrhau bod llesiant iechyd y mislif yn ymddangos ar gwricwlwm ysgolion. Rydym ni wedi llwyddo i sicrhau ei fod yn ymddangos yn y canllawiau gorfodol i ysgolion ar Addysg Cydberthynas a Rhywioldeb
Rydym ni'n cymryd rhan mewn ymgyngoriadau, byrddau cynghori a gwaith cyd-gynhyrchu gofal iechyd
- Cefnogi'r gwaith o ddatblygu tudalen 111 GIG Cymru ar Boen Mislif, a'r dudalen gyfatebol ar borth Llwybrau Iechyd Cymunedol a ddefnyddir gan feddygon teulu yng Nghymru.
- Ei gwneud hi'n haws i aelodau FTWW gymryd rhan yn y gwaith o ddatblygu gwefan ‘Mislif Fi’ Llywodraeth Cymru
- Cyfrannu at waith Sefydliad Safonau Prydeinig yn datblygu Safon Mislif, Iechyd y Mislif a'r Menopos, i geisio gwella polisi ac ymarfer mewn gweithleoedd
- Gweithio gydag RCGP ac Endometriosis UK i gyd-gynhyrchu Pecyn Cymorth ar gyfer Iechyd y Mislif i Feddygon Teulu
Rydym ni'n ymwneud yn uniongyrchol â llunwyr polisïau ac ymchwilwyr
- Drwy gymryd rhan ym Mwrdd Crwn Urddas y Mislif Llywodraeth Cymru, rydym ni wedi sicrhau bod iechyd a llesiant y mislif drwy gydol oes yn cael sylw yn Strategaeth Urddas y Mislif, a ail-lansiwyd yn 2023 fel y Cynllun Gweithredu Balch o'r Mislif.
- Gweithio gyda Phrifysgol Caerdydd i ddatblygu cwrs hyfforddi byr SPPINN (Niw yw Poen Mislif Difrifol yn Normal ar gyfer addysgwyr a nyrsys ysgolion i'w helpu i roi cefnogaeth well i ddisgyblion a'u cyfeirio at gymorth
- Partneru ag academwyr ym Mhrifysgol Caerdydd a Bangor i ddatblygu'r Astudiaeth SPPINN sy'n mynd ymlaen ac sy'n cael ei ariannu gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru er mwyn deall yn well a gwella'r ffyrdd o addysgu pobl am boen mislif difrifol, a darparu gofal iechyd ar gyfer poen mislif difrifol ledled Cymru
Newyddion a blogiau cysylltiedig
Gwneud i Iechyd Mislifol Gyfri yng Nghymru - Crynodeb o’r Hystings
Roedd FTWW yn falch o gynnal hystings bywiog ar-lein ar y pwnc 'Gwneud i Iechyd Mislifol Gyfri yng Nghymru', cyn etholiadau’r Senedd fis nesaf. Cynhaliwyd hyn mewn partneriaeth ag Endometriosis UK, gyda chefnogaeth Cysters, Cymdeithas Ryngwladol Anhwylderau Cyn Mislifol (IAPMD) y DU, y Gynghrair Iechyd Mislif, Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr, Cymorth Endometriosis Abertawe a Phen-y-Bont ar Ogwr, Cymuned Menopos De Cymru a Phrifysgol Gorllewin yr Alban.
FTWW x Urddas Mislif
Rydyn ni wedi bod yn darparu mwy o hyfforddiant ar Urddas Mislif, gan ymdrin â phynciau fel iechyd a llesiant mislifol, tlodi mislif, y menopos, a’r effaith ar addysg a chyflogaeth. Roedden ni hefyd yn falch iawn o gyflwyno sesiwn 'Dysgu dros Ginio' â chydweithwyr yn Llywodraeth Cymru ar draws pob maes polisi i rannu canfyddiadau’r Astudiaeth 'SPPINN (Dydy Poen Mislif Difrifol Ddim yn Normal)' a gwblhawyd yn ddiweddar.
FTWW yn cyflwyno yng Nghynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr
Roeddem yn falch iawn o gael ein gwahodd i Gynhadledd Flynyddol Cymru Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr (RCOG) gyda thua 100 o obstetryddion a gynaecolegwyr ledled Cymru ar 7 Tachwedd, i wneud cyflwyniad ochr yn ochr â Dr Robyn Jackowich a Rachel Joseph o Brifysgol Caerdydd ar brosiectau a gweithgareddau sy'n berthnasol i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg yng Nghymru.
Storïau am iechyd y mislif
Eiriol drosoch chi eich hun neu dros rywun arall
Mae llawer o fenywod yn ei chael hi'n anodd trafod materion iechyd a chwilio am gymorth, hyd yn oed os yw'r materion iechyd yn cael effaith fawr ar eu bywydau.
Rydym ni'n gweithio gyda'n cymuned i ddatblygu adnoddau ac awgrymiadau i helpu menywod i godi llais, a darparu arweiniad i bobl sydd eisiau cefnogi eu hanwyliaid, ffrindiau, cydweithwyr neu gleifion sy'n byw â chyflyrau iechyd.
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Taflen ddwyieithog FTWW ar Llesiant y mislif
Mae'r daflen hon yn rhoi trosolwg o'n gwaith yn y maes hwn a pham mae ei angen
Chwalu'r Mythau am y Mislif
Llyfryn gan FTWW
Iechyd Menywod Cymru: Datganiad Ansawdd ar gyfer Iechyd Menywod, Merched a'r Rhai a Bennwyd yn Fenywod ar adeg eu geni 2022
Darllenwch fwy am argymhellion i Lywodraeth Cymru yn yr adroddiad hwn gan gynghrair #IechydMenywodCymru
Astudiaeth SPPINN (Nid yw Poen Mislif Difrifol yn Normal) yng Nghymru
Astudiaeth ar y cyd lle mae FTWW yn gweithio gyda Phrifysgol Bangor a Phrifysgol Caerdydd
Break the Barriers: Girls’ Experiences of Menstruation in the UK
Mae'r adroddiad hwn a luniwyd gan Plan International yn datgelu bod diwylliant o stigma a thawelwch wedi troi'r mislif yn faterion iechyd cyhoeddus cudd – gan roi iechyd corfforol, rhywiol a meddyliol merched mewn perygl.
Canllaw Cyflawn i'ch Iechyd Meddwl
Mae'r Menstrual Health Project wedi cynhyrchu'r adnodd digidol rhad ac am ddim hwn sy'n cynnwys pynciau pwysig fel adnabod arwyddion y 5 prif ganser gynecolegol, anweithrediad llawr y pelfis, y menopos a mwy.

