Codi pryder am eich gofal iechyd
Rydyn ni'n gwybod y gall pobl a chleifion fod yn anfodlon weithiau â'r iechyd a'r gofal maen nhw wedi'u derbyn. Efallai bod rhywbeth wedi mynd o'i le gyda'r gofal a ddarparwyd i chi neu rywun sy’n annwyl i chi. Efallai yr hoffech wneud cwyn er mwyn mynd i'r afael â'ch pryder ac i weld gofal yn gwella.
Mae hawl gennych i godi pryderon am y gofal rydych chi'n ei dderbyn o dan y GIG yng Nghymru. O 1 Ebrill 2026 gellir gwneud hyn drwy Gwrando ar Bobl: Proses cwynion, digwyddiadau ac iawn GIG Cymru.
Bydd unrhyw bryderon a godir cyn 1 Ebrill 2026 yn parhau i gael sylw drwy’r broses Gweithio i Wella
Gall pryder gynnwys cwyn, digwyddiad yn ymwneud â diogelwch cleifion, neu unrhyw fater arall sy'n ymwneud â gwasanaethau iechyd sefydliad.
Gall sefydliadau fod yn:
- Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechydi gael gwybod pwy a ble mae’r rhain ewch i)
- Practisau meddygon teulu
- Practisau deintyddol
- Darparwyr Annibynnol sy'n darparu gofal a ariennir gan y GIG
Gelwir y rhain hefyd yn Gyrff Cyfrifol. Maen nhw’n sefydliadau sy'n gyfreithiol gyfrifol am eich gofal, sydd â dyletswydd i wrando ar gwynion, gweithredu arnynt, ymchwilio ac ymateb iddynt, ac i ddysgu oddi wrthynt i wella gofal a lleihau'r risg o niwed eto yn y dyfodol.
Cefnogaeth wrth godi pryder
Rydym yn deall y gall codi pryder fod yn anodd a pheri gofid, a hynny’n aml yn dilyn profiad gofidus neu drawmatig. Weithiau, gall fod yn anodd gwybod beth i'w wneud neu sut i fynegi eich hun. I'ch helpu i godi pryder, mae yna sefydliadau a phobl yng Nghymru i'ch cefnogi. Mae'r rhain yn cynnwys:
Llais
Llais yw'r corff cenedlaethol, annibynnol a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i roi llais cryfach i bobl Cymru yn eu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Gallant ddarparu cymorth unigol i wneud cwyn trwy eu Gwasanaeth Eiriolaeth Cwynion. Mae rhagor o wybodaeth am Llais
Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC)
AGIC yw'r rheoleiddiwr annibynnol a’r arolygiaeth gofal iechyd yng Nghymru. Eu rôl yw gwirio bod gofal iechyd yn ddiogel, yn effeithiol, ac yn diwallu anghenion pobl a chymunedau. Mae rhagor o wybodaeth am AGIC
Eich Aelod lleol o’r Senedd
Mae gan y rhan fwyaf o Aelodau'r Senedd swyddfa leol yn eu hetholaeth neu'u rhanbarth, ac maen nhw’n cyflogi staff i'w helpu gydag ymholiadau gan eu hetholwyr.
Bydd aelodau yn aml yn cynnal 'cymhorthfa'. Sesiynau rheolaidd yw’r rhain lle mae cyfle i unrhyw aelod o'r cyhoedd gyfarfod eu cynrychiolydd a thrafod unrhyw faterion sy’n peri pryder iddynt. Mae llawer o etholwyr hefyd yn cysylltu ar-lein, neu dros y ffôn.
Mae'n bwysig cofio bod iechyd a gofal cymdeithasol wedi'i ddatganoli yng Nghymru. Mae hyn yn golygu bod penderfyniadau am iechyd a gofal yn cael eu gwneud yng Nghymru, felly gall Aelodau'r Senedd drafod, trafod a gweithredu.
Gallwch ddarganfod mwy am y Senedd a sut i ddod o hyd i'ch Aelod lleol o'r Senedd a chysylltu ag ef/hi yma: yma.
Efallai y byddwch yn gofyn am gefnogaeth Llais, AGIC, neu Aelod o'r Senedd ar unrhyw adeg, gan gynnwys os ydych eisoes wedi codi pryder gyda darparwr gofal iechyd.
Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (OGCC)
Os ydych yn parhau i fod yn anhapus ar ôl i'r sefydliad iechyd a gofal neu'r Corff Cyfrifol gwblhau ei ymchwiliad, mae hawl gennych ofyn i Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adolygu'ch pryder yn annibynnol. Mae'r Ombwdsmon yn annibynnol ar y GIG. Mae rhagor o wybodaeth am yr Ombwdsmon
Cyngor Cyfreithiol Annibynnol
Os yw'ch pryder yn ymwneud â niwed, anaf neu golled ariannol posibl, efallai y byddwch eisiau gofyn am gyngor cyfreithiol annibynnol. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael yng nghanllawiau 'Gwrando ar Bobl' Llywodraeth Cymru: nghanllawiau 'Gwrando ar Bobl' Llywodraeth Cymru.
Llwybrau eraill i fynegi pryderon am ddarpariaeth iechyd a gofal
Y Gymdeithas Cleifion
Mae'r Gymdeithas Cleifion yn elusen ledled y DU sy'n ymgyrchu dros welliannau mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw’n cynnig amrywiaeth o adnoddau i'ch cefnogi i godi pryder, o ddeall eich hawliau, i wybod pa gwestiynau i'w gofyn, i awgrymiadau ymarferol sut i gysylltu â gwasanaethau. Hefyd mae llinell gymorth ar gael am ddim. Mae rhagor o wybodaeth am y Gymdeithas Cleifion
Y Cyngor Meddygol Cyffredinol
Mae'r Cyngor Meddygol Cyffredinol yn gweithio gyda meddygon, meddygon cyswllt, cymdeithion anesthesia, cleifion a rhanddeiliaid eraill i gefnogi gofal da a diogel i gleifion ledled y DU. Mae rhagor o wybodaeth am y Cyngor Meddygol Cyffredinol.
Sut i "ddweud eich dweud" ac eiriol drostoch eich hun ynglŷn â materion iechyd
Mae cyfle i siarad gyda rhywun am eich materion iechyd a sut rydych chi'n teimlo yn gallu bod yn brofiad cadarnhaol, ac mae hefyd yn gallu eich helpu i gael y gofal iechyd angenrheidiol.
Mae FTWW wrthi'n gyd-gynhyrchu Pecyn Hunan-eiriolaeth gyda'n cymuned, a bydd ar gael yma cyn bo hir.
Yn y cyfamser, beth am gael awgrymiadau a syniadau gan aelodau o'n cymuned i'ch helpu chi i eiriol drosoch eich hun.
Cefnogi rhywun i drafod ac ymdopi â'u materion iechyd
Pan fydd aelod o'ch teulu, claf, cydweithiwr neu ffrind yn cael trafferth gyda materion iechyd, gall eich cefnogaeth chi gael effaith gadarnhaol ar eu llesiant.
Gyda chymorth ein cymuned, rydym ni wedi cyfuno syniadau, awgrymiadau a chynghorion i helpu pobl eraill i fod yn gymheiriaid gwell pan fo angen cefnogi pobl gyda'u hiechyd a'u llesiant.
Mae'r wybodaeth hon ar gyfer ffrindiau, aelodau o'r teulu a gweithwyr proffesiynol.