Pam nad yw pryderon iechyd menywod bob amser yn cael eu clywed? 

Mae'r dudalen hon yn trafod yr heriau sy'n wynebu menywod a phobl a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni o ran eu hiechyd, gofal iechyd, ac anghenion cysylltiedig.

Yn FTWW, gwyddom fod llawer o fenywod a phobl a bennwyd yn fenywaidd pan gawsant eu geni yn adrodd ei bod hi'n anodd cael eu cymryd o ddifrif. Weithiau maen nhw'n disgrifio hyn fel teimlo nad ydyn nhw'n cael eu clywed wrth geisio esbonio effaith eu symptomau ar eu bywydau. Dywed menywod fod hyn yn digwydd gyda theulu a ffrindiau, mewn lleoliadau addysg a gweithleoedd, gyda gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a rhai sy'n gwneud penderfyniadau.

Yn 2022, cynhaliodd GIG Cymru arolwg 'iechyd menywod' a gafodd bron i 4000 o ymatebion – y brif flaenoriaeth i bron pob un o'r rhai a ymatebodd i'r arolwg oedd 'bod eu llais yn cael ei glywed' mewn lleoliadau gofal iechyd. Darllenwch 'Adroddiad Darganfod Iechyd Menywod' GIG Cymru..

Disgrifir rhai o'r rhwystrau allweddol a brofwyd gan ein cymuned isod:

1. Symptomau sy'n cael eu diystyru fel rhai 'normal'

Mae llawer o ymchwil i ddangos y gall fod yn anos i fenywod gael eu cymryd o ddifrif oherwydd gall rhai o'r problemau iechyd rydyn ni'n eu profi gael eu hystyried yn rhan 'normal' o fywyd. Mae hyn yn arbennig o wir am symptomau iechyd mislif, fel poen mislif neu waedu trwm.

Mae'r heriau sy'n wynebu'r rhai sy'n chwilio am gymorth ar gyfer poen mislif difrifol wedi'u harchwilio ymhellach yn yr Astudiaeth SPPINN (Severe Period Pain Is Not Normal) a arweinir gan Brifysgol Caerdydd – astudiaeth y cymerodd FTWW ran ynddi. Darllenwch fwy am Astudiaeth SPPINN ar wefan Ymchwil Ffrwythlondeb ac Atgenhedlu Caerdydd [CFRR]..

2. Mae materion menywod yn tabŵ

Un rheswm arall pam y gallem oedi neu ei chael hi'n anodd gofyn am help ar gyfer ein problemau iechyd yw oherwydd weithiau eu bod weithiau’n cael eu hystyried yn 'tabŵ' - pan fo pobl yn meddwl nad yw'n gwrtais nac yn dderbyniol siarad am rannau penodol o'r corff, symptomau, neu deimladau. Efallai y byddwn hefyd yn teimlo embaras wrth siarad am y mathau hyn o faterion.

3. Mae stereoteipiau rhywedd yn effeithio ar ganfyddiadau

Trydydd rheswm pam y gall llawer ohonom ei chael hi'n anos sicrhau bod pobl yn cymryd symptomau a materion iechyd o ddifrif yw oherwydd stereoteipiau a rhagfarn ynghylch rhywedd - pan fo syniadau hen ffasiwn a safbwyntiau cymdeithasol am fenywod a'n personoliaethau’n effeithio ar sut mae pobl eraill yn ein gweld a'n trin.

Er enghraifft, mae menywod weithiau'n cael eu disgrifio fel unigolion 'rhy sensitif', 'gor-emosiynol', sydd 'eisiau sylw' ac fel pobl nad ydynt yn stoic iawn nac yn ddewr. Gall y camsyniadau hyn olygu, pan fo menywod yn adrodd am symptomau, fod gan bobl ragfarn yn erbyn hyn, felly pan fyddwn yn estyn allan am help, rydym yn cael ein hystyried, ar gam, fel rhai sy’n creu ffwdan heb fod eisiau. Gall hyn ein gwneud yn gyndyn o ofyn am gymorth ac achosi oedi i dderbyn y gofal sydd ei angen arnom.

Sut mae'r rhwystrau hyn yn effeithio ar fynediad at ofal iechyd

Rydym yn gwybod y gall profi'r rhwystrau hyn ei gwneud hi'n anodd gofyn am help gan y rhai o'n cwmpas, weithiau gan gynnwys ein meddygon.

Dywed nifer o aelodau FTWW wrthym fod yn rhaid iddynt roi sawl cynnig arni cyn derbyn y sylw neu'r gofal cywir sydd ei angen arnynt. Maen nhw'n dweud wrthym eu bod yn teimlo fel pe bai eu pryderon yn cael eu diystyru neu na chymerir unrhyw gamau. Maen nhw'n dweud wrthym eu bod wedi ymlâdd, a dan straen yn sgil y broses o geisio cael mynediad at wasanaethau.

Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn bod yn ymwybodol os yw'ch symptomau'n cael effaith negyddol ar eich bywyd, e.e. ei bod hi'n anodd gwneud gweithgareddau bob dydd, cysgu, neu ganolbwyntio, dylech geisio sicrhau help a chefnogaeth cyn gynted â phosibl. Gall hyn atal symptomau rhag gwaethygu ac, o bosibl, atal yr achos sylfaenol rhag mynd yn anos ei drin. O leiaf, gall gofyn am gymorth fod yn gam cyntaf i leihau effaith symptomau ar eich bywyd.

Byddwn bob amser yn annog pobl eraill i ofyn am gymorth, ac nid o reidrwydd eu rheolwr llinell uniongyrchol - gall fod yn gydweithiwr dibynadwy.

Gallwch ddarllen hanes Janine yn gofyn am gymorth yn y gweithle yma >

Heb amheuaeth mi fuaswn yn annog pobl i ddyfalbarhau yn eu hymdrech i gael gofal meddygol, hyd yn oed os yw hynny’n anodd neu os oes rhywun yn ceisio eich troi yn erbyn y syniad. Gofynnwch am ail neu drydedd barn os bydd angen. 

Gallwch ddarllen hanes Eliza yn gofyn am gymorth gan ei darparwyr gofal iechyd yma > 

Pecyn Cymorth Hunan-eiriolaeth Mae fy Llais yn Cyfrif FTWW

Mae'r Pecyn Cymorth hwn yn cynnwys gwybodaeth, awgrymiadau, technegau ac enghreifftiau i ddatblygu eich sgiliau hunan-eiriolaeth

Gweld y Pecyn Cymorth Hunan-Eiriolaeth 

 

Lawrlwythwch y Pecyn Cymorth 

cyCymraeg